Therapïau Cyflenwol
VTCT Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol
Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn therapïau cyflenwol, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau effeithiol i chi ddod yn Therapydd Cyflenwol cymwys.
SKU: 1201F7311
MEYSYDD: Trin Gwalt a Harddwch
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy’n Oedolion
ID: 49955
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£1,250.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster galwedigaethol hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd cyflenwol. Mae’r cwrs yn cwmpasu unedau gorfodol gan gynnwys tylino, aromatherapi, adweitheg, anatomeg a ffisioleg a’r sgiliau busnes perthnasol ar gyfer therapïau cyflenwol.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos ynghyd ag 1 sesiwn fasnachol yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Hydref.
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Mae unedau yn cynnwys:
- Egwyddorion ac arferion ar gyfer therapïau cyflenwol
- Anatomeg a ffisioleg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Darparu tylino’r corff ar gyfer therapïau cyflenwol
- Darparu aromatherapi ar gyfer therapïau cyflenwol
- Darparu adweitheg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ymarferol
- Arholiad ar-lein
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Gwisg, y gallwch ei phrynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cit therapi penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: |
---|
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024