PROSIECT STEP

English
 
PROSIECT STEP

Cymorth mewn Hyfforddiant ac Addysg Sir Benfro


Datganiad Cenhadaeth


Cyfoethogi BYWYDAU a CHYMUNEDAU


Bydd cyllid y Prosiect yn help i symud neu ddileu rhwystrau rhag dysgu, yn cynorthwyo buddiolwyr i gyfoethogi eu bywydau a’u cymunedau.


Nodau a Gweithgareddau’r Prosiect


1. Cyflenwi cyfleoedd dysgu yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol


Drwy……

  • drefnu cyrsiau lleol
  • trefnu cyrsiau dilyniant i ateb y galw
  • sicrhau bod y cyflenwi o’r ansawdd gorau posibl
  • cynnig cymwysterau addas ac ymarferol
  • cefnogi gwirfoddolwyr gofal plant i ennill NVQ

2. Darparu hyfforddiant sy’n addas i anghenion y gymuned

Drwy ymgynghori â…


  • Chymunedau
  • Grwpiau cymunedol a chymorth neu asiantaethau
  • Partneriaid a darparwyr hyfforddiant eraill

3. Cynorthwyo i symud neu ddileu rhwystrau rhag dysgu

Drwy ddarparu neu gyllido…


  • Cyrsiau am ddim
  • Gofal plant am ddim (neu ofal yr henoed)
  • Deunyddiau cwrs am ddim
  • Costau teithio lle bo angen

4. Helpu buddiolwyr i gyfoethogi eu bywydau a’u cymunedau drwy ddysgu

Drwy…


  • Gyflenwi Gwasanaeth Cynghori a Chyfarwyddyd yn y gymuned
  • Cyfeirio at asiantaethau a chyfleoedd dysgu eraill
  • Trefnu digwyddiadau gwerth ychwanegol e.e. ymweliadau â cholegau
  • Dathlu cyflawniadau dysgwyr a grwpiau
  • Cynorthwyo grwpiau gwirfoddol i ddefnyddio Coleg Sir Benfro fel adnodd cymunedol

Derbyniodd y prosiect hwn gyllid drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.