Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Crefft Gymysg

Crefft Gymysg

Clytwaith a Chwiltio

Eisiau dechrau crefft newydd ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Efallai mai dyma’r cwrs i chi.

SKU: 3204X7551
ID: N/A

£65.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Dysgwch grefft crosio neu glytwaith a chwiltio. Mae ein sesiynau crefft gymysg yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar naill ai crosio neu glytwaith a chwiltio. Mae croeso i bob lefel o brofiad.

Bydd angen i chi ddod â:

  • Crosio: eich bachau crosio a gwlân
  • Clytwaith a chwiltio: pecyn gwnïo sylfaenol, darnau o ddefnydd

Fodd bynnag, os nad oes gennych yr eitemau uchod i ddechrau, dewch i’r wers gyntaf a bydd y tiwtor yn eich helpu o’r fan honno.

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw brosiectau yr ydych wedi bod yn gweithio arnynt gartref hefyd.

Dewch i gael hwyl yn dysgu’r sgil hon ac ehangu eich casgliad.

Cynhelir y cwrs wyth wythnos hwn fel arfer yn Arberth ar ddydd Mawrth a Rhos (Hwlffordd) ar ddydd Gwener, 10:00-12:00.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyrsiau cymunedol, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 139 neu unrhyw bryd drwy e-bost community@pembrokeshire.ac.uk

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol

Mae’r cwrs hwn ar gyfer galluoedd cymysg felly bydd yn dysgu’r technegau sylfaenol i ddechreuwyr ac yn darparu’r sgiliau a’r hyder i gwblhau eich prosiectau eich hun.

I’r rhai sydd â phrofiad, gallwch ddarganfod techneg neu awgrym newydd a chael eich ysbrydoli â syniadau newydd.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau cymunedol.

  • Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

  • Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Additional information

Modd:

Dyddiad y Cwrs:

Hydref 2023

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 06/12/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close