Parhewch mewn Cysylltiad! Parhewch wedi’ch Ysbrydoli!

Cyrsiau Cymunedol ar Garreg eich Drws!

Mae ein cyrsiau cymunedol rhan-amser wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion o bob oed. Mae cyrsiau yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gael ar ein prif gampws yn Hwlffordd, yn ogystal ag mewn lleoliadau cymunedol ar draws Sir Benfro. Mae gennym dîm gwych o diwtoriaid ac adran dysgu oedolion yn y gymuned bwrpasol sy’n gallu eich cefnogi ar hyd eich taith ddysgu – beth bynnag fo’ch diddordeb a’ch nodau.

 

Mae llawer o’n cyrsiau byr ar gael i’w harchebu a thalu amdanynt ar-lein. Yna byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch lle ac unrhyw fanylion cwrs ychwanegol trwy e-bost.

Cysylltwch â ni:

Two people in tunnel light by purple fairy lights.
Cropped image of person using a computer.

Am ein Cyrsiau

Mae ein cyrsiau Cymunedol ar gyfer pobl 19+ oed a’r peth gwych yw, ar gyfer llawer o gyrsiau, nid oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol arnoch i gofrestru.

Trwy ein cyrsiau gallwch ddysgu rhywbeth newydd, fel hobi neu ddiddordeb, neu hyd yn oed edrych i ddatblygu’r sgiliau i’ch helpu i newid gyrfa.

Bydd ein tîm dysgu cymunedol cyfeillgar yn gwrando ar yr hyn yr hoffech ei wneud, ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu i’w gyflawni. Pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs cymunedol bydd gennych hefyd fynediad at yr holl gyfleusterau sydd ar gael ar ein prif gampws.

Mae gennym ddewis bach o gyrsiau anhygoel a all eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa.

 

Rydym bob amser yn chwilio am gyrsiau newydd i’w cynnig, mae ein cyrsiau cyfredol sy’n gysylltiedig â gwaith yn cynnwys: cwnsela, cymorth cyntaf, deall camddefnyddio sylweddau a seicoleg yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau mewn ffotograffiaeth, dylunio cynaliadwy a gwneud gwisgoedd.

Beth yw barn ein dysgwyr am ein cyrsiau?

Kath McLukie

Kath McLuckie

Roedd Kathryn yn gweithio fel gofalwraig amser cinio mewn ysgol gynradd pan gafodd trawma personol effaith emosiynol fawr arni hi a’i phlant ac roedd hi’n teimlo ar goll ac yn unig. Un bore fe ddeffrodd a phenderfynodd fod angen iddi wneud rhywbeth i newid ei stori ac i helpu ei hun. Felly cerddodd i mewn i Goleg Sir Benfro a holodd am gyrsiau a allai ei helpu i helpu eraill. Roedd helpu pobl bob amser yn rhywbeth roedd hi eisiau ei wneud oherwydd trawma personol yn ei gorffennol.

Penderfynodd Kathryn ar Gwnsela a dechreuodd gyda chwrs rhagarweiniol byr. Roedd hi wrth ei bodd â’r cwrs hwn felly arweiniodd at gwrs byr arall a arweiniodd wedyn at gwrs blwyddyn Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela.

Dywedodd Kathryn “Pan ddechreuais i yn y Coleg am y tro cyntaf, doedd gen i ddim llais, erbyn i mi astudio ar gyfer Lefel 3, roeddwn i wedi dod o hyd iddo.”

Cymerodd y cwrs dwy flynedd Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig lawer iawn o amser, gwaith caled ac ymrwymiad ochr yn ochr â gweithio a bod yn fam. Pan gwblhaodd Kathryn y cwrs hwn, roedd hi’n teimlo fel person hollol wahanol. Mae hi bellach yn gweithio fel Cwnselydd, felly mae’r person nad oedd yn teimlo bod ganddi lais yn gallu gwneud yn siŵr bod llais pobl eraill yn cael ei glywed.

Floor lit by led lights.

Am ein Lleoliadau

Hwlffordd
Campws Coleg

Wedi’i Leoli ar Brif Gampws Coleg Sir Benfro

Coleg Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1SZ

Y Rhos
Neuadd Bentref

Y Rhos
Neuadd Bentref

Y Rhos
Sir Benfro
SA62 4AU

Freystrop
Neuadd Gymunedol

Ar y ffordd fawr, ar hyd Targate Road

Neuadd Bentref Freystrop
Croes Freystrop
Sir Benfro
SA62 4LQ

Dinas Cross
Hen Ysgol

Yr Hen Ysgol yn Dinas Cross

Yr Hen Ysgol
3 Roseneath Terrace
Dinas Cross
Trefdraeth
SA42 0XB

Neyland
Hwb Cymunedol

Neyland Hwb Cymunedol

John Street

Neyland

Aberdaugleddau

SA73 1TH