Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Lefel-A Sylfaen

Lefel-A Sylfaen

Positive smiling red haired school teacher or tutor explaining something studying, language learning

Cyfle i ddatgloi potensial a phosibilrwydd.

MEYSYDD: ,
DYSGWYR:
ID: 50944

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs blwyddyn hwn fel arfer wedi’i anelu at ddysgwyr y disgwylir iddynt ennill o leiaf gradd C neu uwch mewn TGAU, ond nad ydynt wedi cael y cyfle am amrywiaeth o resymau ee. addysg yn y cartref, iechyd ac ati. Bydd y cwrs yn cynnwys TGAU Mathemateg, Iaith Saesneg, Seicoleg a’r Cyfryngau, gyda’r opsiwn i astudio TGAU Bioleg ochr yn ochr a bydd yn eich paratoi ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau Lefel-A neu Ddiploma Lefel 3.

  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr nad ydynt wedi cael y cyfle i gwblhau TGAU am wahanol resymau (addysg yn y cartref, iechyd, ac ati) ond y byddai disgwyl iddynt wneud yn dda
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

  • Rhaglen ailsefyll TGAU Saesneg Iaith – 2 awr yr wythnos
  • Rhaglen ailsefyll TGAU Mathemateg – 2 awr yr wythnos
  • TGAU Seicoleg – 4 awr yr wythnos
  • TGAU Cyfryngau – 4 awr yr wythnos
  • Bagloriaeth Cymru – lefel 3 – 3.5 awr yr wythnos
  • Tiwtorial – 1 awr yr wythnos
  • Nodwch: mae TGAU Bioleg yn TGAU ychwanegol sydd ar gael y tu allan i’r brif raglen ar gyfer dysgwyr sydd eisiau dilyn pwnc arall. Cynigir hyn fel dosbarth nos – 2.5 awr yr wythnos.

Gofal a Chymorth Bugeiliol

Bydd gan bob dysgwr anogwr bugeiliol a fydd yn bwynt cyswllt iddyn nhw drwy gydol eu hamser yng Ngholeg Sir Benfro. Bydd pob dysgwr yn cael mynediad i sesiynau gyda Chynghorydd Sgiliau Astudio ar gyfer cymorth academaidd ychwanegol, y tu allan i sesiynau wedi eu hamserlennu.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ysgrifenedig

Mae dysgwyr yn symud ymlaen yn bennaf i raglen Lefel-A ond mae Rhaglenni Lefel 2/3 eraill (Diploma/Diploma Estynedig) hefyd yn opsiynau posibl.

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Na

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close