Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Llysgennad Prentisiaeth Yn Angerddol Am Y Gymraeg

Ifan Wyn Phillips

Trydanwr prentis sy’n siarad Cymraeg, Ifan Wyn Phillips yw’r drydedd genhedlaeth i ymuno â’r busnes teuluol a sefydlwyd gan ei dadcu yn Sir Benfro.

Mae Ifan, 20, sy’n byw yng Nghrymych, yn gweithio i D. E. Phillips & Sons Ltd, contractwyr trydanol sy’n gweithio ar safleoedd preswyl, masnachol ac amaethyddol.

Mae’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Gosodiadau Trydan, sy’n cael ei ddarparu’n ddwyieithog gan Goleg Sir Benfro ac mae’n gobeithio symud ymlaen i brentisiaeth ym mis Medi.

Dewisodd Ifan ddilyn y llwybr prentisiaeth i mewn i fusnes y teulu gan nad oedd y brifysgol yn apelio ato. “Mae’n well gen i weithio gyda fy nwylo ac mae’r brentisiaeth yn gyfle i weithio, dysgu a chael eich talu,” meddai.

Ar ôl cyflawni pedair Lefel ‘A’ yn Ysgol y Preseli trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n bwysig i Ifan fod ei brentisiaeth yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog.

Mae ei angerdd am hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog wedi arwain at gael ei benodi’n Llysgennad Prentisiaeth gan Goleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru. Mae Ifan hefyd yn llysgennad Cymraeg ar gyfer Coleg Sir Benfro.

“Gan mai Cymraeg yw fy iaith gyntaf, mae’n llawer rhwyddach i fi wneud fy mhrentisiaeth yn ddwyieithog,” meddai Ifan. “Mae pawb sy’n gweithio yn y busnes ac mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth leol yn siarad Cymraeg.

“Mae bod yn brentis a llysgennad Cymraeg yn gyfle gwych i fi hyrwyddo dysgu trwy’r Gymraeg. Os bydda i’n cyflawni’r rôl yn gyfrifol, gobeithio y gallaf i ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddysgu’r iaith a chyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Hoffwn i gael cymaint o bobl â phosib i ddysgu’r iaith a datblygu eu Cymraeg trwy eu gaith a phrifysgol. Mae’r iaith wedi bod o gwmpas ers y bumed ganrif ac mae’n bwysig iawn ei bod hi’n parhau.”

Mae Coleg Sir Benfro yn ceisio ei orau i helpu Ifan a chyd-ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg i barhau â’u dysgu yn eu hiaith gyntaf.

Cofrestrodd y tiwtor Gosodiadau Trydanol Roger Phillips ar raglen Cymraeg Gwaith Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gynyddu cyfleoedd Cymraeg i ddysgwyr yng ngweithdy’r Coleg lle mae’n gweithio.

Rhoddodd y rhaglen yr hyder iddo siarad mwy o Gymraeg ac i ganfod gwaith papur Saesneg ar gyfer ymarferion ac asesiadau gweithdy ymarferol y gellid eu cyfieithu gyda chymorth Janice Morgan, Swyddog Datblygu’r Gymraeg y Coleg.

“Gyda’n gilydd rydyn ni wedi rhoi mwy o gyfleoedd i Ifan a dysgwyr eraill sy’n siarad Cymraeg ddefnyddio eu hiaith gyntaf o fewn eu prentisiaeth,” meddai Janice.

“Mae tua 11% o’n myfyrwyr yn siaradwyr Cymraeg ond mae’r nifer hwn yn cynyddu ac mae’r coleg yn cydnabod yr angen i ddarparu cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith yn eu rhaglenni dysgu.”

Dywedodd y Gweinidog Cymraeg, Eluned Morgan: “Mae’n wych bod prentisiaid yn cael cyfle i gwblhau eu rhaglen hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n bwysig bod gwasanaethau fel y rhain yn cael eu darparu’n ddwyieithog, gan ei fod yn cryfhau’r defnydd o’r iaith mewn bywyd bob dydd ac yn sicrhau bod siarad Cymraeg yn parhau i fod yn sgil gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth.

“Rydyn ni wedi darparu cyllid i gefnogi Cynllun Llysgennad Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae’n wych gweld pobl yn elwa o hyn. Rydw i’n dymuno pob lwc i brentisiaid sy’n cwblhau eu rhaglenni hyfforddi ac yn gobeithio y byddan nhw’n mwynhau gyrfaoedd hir a llwyddiannus.”

Rôl Ryan Evans fel Hyrwyddwr Dwyieithrwydd NTfW yw cefnogi darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynyddu eu gallu i ddarparu mwy o brentisiaethau yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, felly gall cwblhau prentisiaeth yn ddwyieithog neu yn Gymraeg gynyddu hyder unigolyn i weithio yn y ddwy iaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaeth yn fodelau rôl rhagorol ar gyfer prentisiaethau, gan dynnu sylw at fanteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog yn y gweithle.”

Dywedodd Elin Williams, o Goleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaeth, ac rydyn ni’n credu bod hwn yn offeryn hanfodol wrth ddangos i bobl ei bod yn bosibl parhau â’ch dysgu dwyieithog trwy lwybr prentisiaeth.

“Gyda tharged Llywodraeth Cymru yn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ni fu erioed yn bwysicach datblygu eich sgiliau dwyieithog a chynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd.”

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Shopping cart close