Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Addysg Gorfforol

Addysg Gorfforol

Physical Education PE A-level Course

Addysg Gorfforol Lefel-A CBAC

Astudiwch y nodweddion personoliaeth a’r rhinweddau sydd eu hangen i gynhyrchu perfformiwr o’r radd flaenaf, gan gynnwys eu strategaethau hyfforddi a maetheg yn ogystal ag astudio agweddau ffisiolegol chwaraeon a chymhwyso’r egwyddorion hyfforddi i’ch perfformiad eich hun yn y gamp o’ch dewis.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch galluogi i ddatblygu gwerthfawrogiad o addysg gorfforol mewn ystod eang o gyd-destunau. Fe’i cynlluniwyd i integreiddio theori ac ymarfer gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae’r cysyniadau amrywiol yn effeithio ar eich perfformiad eich hun, trwy ymchwilio i theori ac ymarfer.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Gradd B Addysg Gorfforol neu radd B Gwyddoniaeth (os na chymerwyd Addysg Gorfforol)
  • Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Fel rhan o’r cwrs byddwch yn ymchwilio i effeithiau diwylliant a chymdeithas ar chwaraeon, a sut mae chwaraeon heddiw wedi datblygu, gan nodi’r hyn sy’n ysgogi unigolion a chenhedloedd i fabwysiadu chwaraeon fel cyfrwng hamdden yn ogystal â hyrwyddo eu statws gwleidyddol. Mae yna lu o ddamcaniaethau i’w hastudio, gan gynnwys sut mae sgiliau symud a strategaeth yn cael eu dysgu a’u datblygu; sut mae cystadleuaeth wedi esblygu ac effaith llwyddiant ar hunan-effeithiolrwydd, cymhelliant a hunanhyder.

Bydd y sgiliau a ddysgwyd trwy gydol y cwrs yn cael eu hatgyfnerthu yn y lleoliad go iawn o hyfforddi eraill a thrwy astudio eich gwelliant personol eich hun. Mae hyn yn sicrhau eich bod nid yn unig yn deall y theori ond hefyd, yn gallu ei chymhwyso.

Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Archwilio addysg gorfforol
  • Gwella perfformiad personol mewn addysg gorfforol
  • Gwerthuso addysg gorfforol
  • Mireinio perfformiad personol mewn addysg gorfforol

Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ysgrifenedig
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ffisiolegydd Ymarfer Corff, Rheolwr Canolfan Ffitrwydd, Hyfforddwr Personol, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Gweinyddwr Chwaraeon, Hyfforddwr Chwaraeon, Swyddog Datblygu Chwaraeon, Therapydd Chwaraeon, Coreograffydd, Gwyddonydd Clinigol – Gwyddorau Cardiaidd, Rheolwr Digwyddiad, Ymarferydd Gwella Iechyd, Darlithydd Addysg Uwch, Maethegydd, Rheolwr Gweithgareddau Awyr Agored/Addysg, Seicolegydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Cit chwaraeon penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Ffi DBS Manwl - £38, yn daladwy wrth gofrestru
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Lefel:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 24/08/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close