Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo

Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo

Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo

HABC Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu ac wedi’i ddatblygu i ddiogelu cwsmeriaid, enw da brand ac elw.

£55.00

Out of stock

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs ar-lein undydd hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch (neu’r rhai sydd ar fin dechrau gweithio yn y diwydiant). Bydd dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod mai cyfrifoldeb pawb sy’n ymwneud â storio, paratoi, gweini coginio a thrin bwyd yw diogelwch bwyd.

Sylwch fod y cwrs ar-lein ond bydd angen i chi ddod i mewn i’r Coleg i sefyll yr arholiad.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried bod y pynciau a drafodir yn bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.

Mae canlyniadau dysgu yn cynnwys:

  • Deall pwysigrwydd bod y rhai sy’n trin bwyd yn cadw eu hunain a mannau gwaith yn lân ac yn hylan
  • Deall pwysigrwydd cadw cynhyrchion bwyd yn ddiogel

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ysgrifenedig

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus efallai y byddwch am wneud y cwrs Diogelwch Bwyd Lefel 3.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn efallai y byddwch am roi cynnig ar un arall o’n cyrsiau seiliedig ar waith.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Additional information

Lefel:

Modd:

, ,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close