Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
City & Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun | Bagloriaeth Cymru Uwch Lefel 3 CBAC | Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Lefel 3 CBAC | Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 City & Guilds: Craidd Oedolion
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol medrus, sy’n uchel ei barch fel proffesiwn a gyrfa o ddewis, ac sy’n cael ei gydnabod am y rôl hanfodol y mae’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei chwarae wrth gefnogi unigolion trwy gydol eu hoes.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth yn ymwneud â’r sector iechyd a gofal cymdeithasol/gwyddoniaeth a symud ymlaen i Brifysgol neu sy’n dymuno chwilio am waith yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol.
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd/Gwyddoniaeth
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Mae mynediad yn amodol ar wiriad DBS manwl
Dros ddwy flynedd, bydd dysgwyr yn astudio
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Egwyddorion a Chyd-destun (cyfwerth â thair Lefel A)
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd, cymhwyster gorfodol ar gyfer unrhyw ddysgwr sy’n dymuno chwilio am waith yn y sector gofal iechyd (os yw’r Craidd lefel 2 eisoes wedi gwblhau bydd y dysgwyr yn cwblhau’r prosiect estynedig)
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destun
Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddarparu sylfaen eang ar gyfer addysg bellach a/neu uwch neu gyflogaeth.
Bydd y cymhwyster yn cynnwys:
- Egwyddorion gofal ac arfer diogel o fewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar draws oes
- Hyrwyddo hawliau unigolion ar draws eu hoes
- Deall sut mae amodau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
- Cefnogi unigolion bregus i gyflawni eu canlyniadau dymunol
- Gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi iechyd a llesiant oedolion yng Nghymru i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- Ymchwilio i faterion cyfoes ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Bydd y cymhwyster, a elwir yn ‘Craidd’ yn rhoi cyflwyniad trylwyr i’r egwyddorion, y gwerthoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag oedolion, plant a phobl ifanc.
I gyflawni’r cymhwyster Craidd, rhaid i ddysgwyr gyflawni’r unedau canlynol:
- Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
- Iechyd a lles
- Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
- Diogelu unigolion
- Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â 100 awr o ymgysylltu â chyflogwr, gan gynnwys lleiafswm o 60 awr o leoliad gwaith. Mae hyn yn rhan annatod a gorfodol o gwblhau’r cwrs hwn.
Bydd dysgwyr hefyd yn dechrau prosiect estynedig, i’w gwblhau ym Mlwyddyn 2.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad mewnol
- Arholiad ysgrifenedig
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cynorthwyydd Gofal Ambiwlans, Cynorthwyydd Gofal Iechyd, Gweithiwr Gofal, Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Cefnogi, Mentor Dysgu.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Ffi DBS Manwl - £44, yn daladwy wrth gofrestru
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 16/04/2024