Gwasanaethau a Gynlluniwyd
I Chi

Rhaglenni
Hyfforddi
Siaradwch â staff am greu rhaglen hyfforddi a fyddai’n gweddu orau i’ch anghenion.

Dosbarthiadau
Ffitrwydd
Mae gennym amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd yn rhedeg drwy’r flwyddyn i weddu i amrywiaeth o alluoedd.
LLOGI EIN
NEUADD CHWARAEON

Ar gael i Bawb!
Mae ein neuadd chwaraeon yn addas ar gyfer popeth o bêl-droed 5 bob ochr wythnosol gyda ffrindiau i dwrnameintiau chwaraeon, adeiladu tîm a phartïon plant!
- Ar gael: Dydd Llun i Ddydd Gwener 17:00 – 21:00
- Cyfradd: Sesiwn oedolion - £40ya
- Cyfradd: Sesiynau plant - £27.50ya
Rhagymadrodd
Campws 6 Ffitrwydd
- Glan + Agored i’r Awyr = Cadwch yn Ddiogel
Offer a Chyfleusterau
Mae gan ein cyfleuster ffitrwydd amrywiaeth o offer o safon uchel sy’n addas i bawb, o bobl sy’n frwd dros gardio i hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar gryfder.
- Gofod Glân ac Awyrog
- 10 Cawod
- 3 Ystafell Newid
- Ffynnon Ddŵr
- Hyfforddwyr ar y Safle
- Cyngor Rhad ac Am Ddim
- Matiau Ioga
- Sesiynau Hyfforddiant Personol
- Rhaglenni Hyfforddiant wedi’u Teilwra

Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw darparu ffitrwydd fforddiadwy ac arweiniad arbenigol i gwsmeriaid, gan eich helpu i gyflawni eich nodau.

Stori
Fe wnaethom agor yn 2017 gyda’r nod o ddarparu cyfleuster manyleb uchel sy’n fforddiadwy. Ein nod yw eich cefnogi ar eich taith ffitrwydd, boed yn golled pwysau, ennill cryfder neu hyfforddiant ar gyfer marathon bydd ein hyfforddwyr wrth law i’ch cefnogi.

Dosbarthiadau
Ffitrwydd
Ein dull gweithredu yw addysgu dechreuwyr i roi’r offer i chi hyfforddi’n glyfar. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r gampfa yn teimlo’n gyfforddus, waeth beth fo’u lefel ffitrwydd neu brofiad.
Gyda'n gilydd ry ni’n
Llwyddo
Beth sydd gan ein haelodau i’w ddweud:



Chwestiynau Cyffredin
Mae’r gampfa ar agor:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 07:00 i 21:00
- Dydd Sadwrn: 09:00 i 16:00
- Ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus
- Ar gau penwythnos y Pasg gan gynnwys dydd Sadwrn
- Ar gau am bythefnos dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Mae angen i chi fod yn 18 oed o leiaf i ymuno â Campws 6 Fitness, oni bai eich bod yn fyfyriwr presennol neu’n aelod o staff.
Cewch, cysylltwch â ni isod a byddwn yn cysylltu â chi i archebu slot.
Cysylltwch â ni, byddwn yn gwneud pob addasiad rhesymol ond bydd angen i ni fod yn siŵr bod y gampfa yn addas ar gyfer eich anghenion.
Er mwyn sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd eich ymarferion, mae’n ofynnol i bob defnyddiwr campfa fynychu sesiwn sefydlu gydag aelod o’n tîm. Hyd yn oed os ydych chi’n brofiadol, mae offer yn amrywio rhwng campfeydd, felly mae’r sesiwn hon yn hanfodol.
- Os nad yw aelod o’r tîm yn y gampfa, gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a chymorth yn y dderbynfa
- Helpwch ni i gadw’r gampfa’n lân trwy sychu offer ar ôl ei ddefnyddio
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer y gweithgaredd rydych chi’n ei wneud
- Caniateir codi traed noeth neu mewn sanau ar lwyfannau codi yn unig
- Defnyddiwch loceri ar gyfer bagiau
- Yn ystod cyfnodau prysur, byddwch yn ymwybodol am faint o amser y byddwch yn ei dreulio ar bob darn o offer er mwyn caniatáu i ddefnyddwyr eraill y gampfa gwblhau eu hymarfer corff.
- Peidiwch â gadael unrhyw un arall i mewn i’r gampfa gyda’ch cerdyn adnabod
Mae gennym ni ddau opsiwn gwahanol ar gyfer aelodaeth:
Staff neu fyfyriwr y coleg
- Debyd uniongyrchol £12.50 y mis (£150 am y flwyddyn – cytundeb treigl, gellir ei ganslo unrhyw bryd)
- Aelodaeth flynyddol £130 am y flwyddyn – taliad ymlaen llaw
Y cyhoedd
- Un mis, dim cytundeb yw £25 y mis
- Debyd uniongyrchol £17.50 y mis (£210 am y flwyddyn)
- Aelodaeth flynyddol £190 am y flwyddyn – taliad ymlaen llaw
Pan fyddwch yn mynychu eich sesiwn gyntaf ar gyfer eich cyfnod sefydlu byddwch yn cael eich cerdyn aelodaeth.
Cewch, o daliad un mis i ddebyd uniongyrchol ac o ddebyd uniongyrchol misol i flynyddol, ond nid y ffordd arall. Defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Os bydd taliad yn methu, bydd eich aelodaeth yn cael ei atal yn awtomatig. Bydd angen i chi dalu’r taliad a datrys unrhyw broblem gyda’r taliad sydd wedi methu cyn y gellir ailddechrau mynediad/aelodaeth.
Cwblhewch y ffurflen gyswllt isod a byddwn yn cael rhywun i gysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Ewch i’n tudalen amserlen Dosbarthiadau a chliciwch ar y dosbarth y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Sgroliwch i waelod y dudalen ac fe welwch fotwm ‘Archebu Nawr’.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ddod o hyd i eiddo coll yw mynd yn ôl i’r gampfa a siarad ag aelod o staff. Os nad yw’r gampfa ar hyn o bryd, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod.
Efallai y bydd adegau yn ystod y dydd pan nad oes staff yn y gampfa. Mae’r gampfa ond ar gael i’r rhai sydd ag aelodaeth â thâl ac sydd wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r offer. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad yn y gampfa, neu gamddefnyddio’r offer, rhowch wybod i aelod o staff y gampfa neu’r tîm ystadau cyn gynted â phosibl. Diogelwch ein haelodau yw ein blaenoriaeth a byddwn yn gweithredu’n gyflym i ddatrys unrhyw bryderon.
Mae ein timau’n glanhau’r offer yn ddyddiol fel rhan o amserlen gylchdroi. Gofynnwn hefyd i aelodau ddod â thywel chwys i leihau faint o chwys sy’n glanio ar offer.
Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch glendid ein hoffer neu gyfleusterau, siaradwch ag aelod o staff ar y safle a fydd yn hapus i sicrhau bod unrhyw faterion yn cael eu datrys.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â CAMPUS 6 Fitness yn uniongyrchol bob amser neu’n ysgrifenedig.
I roi adborth, gallwch lenwi’r ffurflen gyswllt isod. Mae hyn yn sicrhau bod CAMPUS 6 Fitness a’r Coleg yn cael eich neges.