A SIOP GOFFI
Mae’n bleser gennyf eich croesawu i’r Bwyty a’r Siop Goffi yn CAMPWS6.
Mae ein myfyrwyr yn paratoi’r holl fwyd, yn ei weini ac yn rhedeg y gweithgareddau blaen tŷ tra’n astudio cymwysterau lletygarwch ar lefelau 1, 2 a 3. Maent yn ymfalchïo’n fawr mewn paratoi a gweini bwyd gwych ac mewn goruchwylio ei gilydd i gael profiad o reoli bwytai a cheginoedd.
Mae ein myfyrwyr yn cael eu harwain gan dîm o staff ysbrydoledig a phroffesiynol, sy’n annog ein myfyrwyr i gyrraedd y safonau uchaf.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n bwyty yn fuan a diolch i chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth.
Eva Rees
Pennaeth y Gyfadran
Siop Goffi
- Dydd Llun: ar gau
- Dydd Mawrth: ar gau
- Dydd Mercher: 09:30 – 13:15
- Dydd Iau: ar gau
- Dydd Gwener: 09:30 – 13:15
Amser tymor yn unig
Bwyty
- Dydd Llun: ar gau
- Dydd Mawrth: ar gau
- Dydd Mercher: 12:00 – 13:00
- Dydd Iau: 18:00 – 20:30 Archebion yn Unig
- Dydd Gwener: 12:00 – 13:00
Amser tymor yn unig
Bydd hyn yn cael ei ategu gan “gynigion arbennig” bob wythnos yn seiliedig ar gwricwlwm ein myfyrwyr.
(more…)
(more…)
(more…)
Dw i wedi bod i Fwyty'r Academi cwpl o weithiau nawr fel rhan o fy niwrnod pampro. Roedd y bwyd wnaeth y myfyrwyr yn hyfryd. Roedd cyflwyniad y bwyd yn apelgar iawn.