Showing 217–228 of 375 results
-
Llwybrau i Sero Net – Ystafell Ddosbarth Rhithwir
£500.00Mae Cwrs Llwybrau i Sero Net IEMA yn gwrs sy’n rhoi arweiniad clir, cyson ar arfer gorau ar ymateb i’r argyfwng hinsawdd, nod y cwrs yw rhoi trosolwg strategol a gweithredol i oruchwylwyr ac arweinwyr o gynaliadwyedd amgylcheddol fel y mae’n effeithio ar eu diwydiant penodol.
-
Llwybrau Ymgysylltu Hyfforddeiaethau
Dyma raglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr rhwng 18 – 19 oed yng Nghymru nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Mae amrywiaeth o lwybrau pwnc ar gael ac ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, byddant yn caniatáu i chi symud ymlaen i gyflogaeth, prentisiaeth neu gwrs Lefel 1 neu 2 yng Ngholeg Sir Benfro neu gyda darparwr arall.
-
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Mae Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn darparu cwrs astudio eang, cydlynol, boddhaol a gwerth chweil. Mae’n eich annog i feithrin hyder mewn gwleidyddiaeth, ac agwedd gadarnhaol tuag ati, ac i gydnabod ei phwysigrwydd yn eich bywyd eich hun ac i’r gymdeithas gyfan.
-
LPG: Tanau Ffliw Caeedig
£295.00Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i brofi cymhwysedd diogelwch nwy gweithiwr yn y gwaith gyda thanau nwy petrolewm hylifedig (LPG) ffliw caeedig.
-
LPG: Trawsnewid Nwy Naturiol i LPG
£295.00Os ydych chi’n blymwr neu’n beiriannydd gwresogi a’ch bod yn bwriadu ymestyn eich cwmpas gwaith i waith nwy petrolewm hylifedig (LPG).
-
Maeth ar gyfer Byw’n Iach
£45.00Ennill gwybodaeth werthfawr mewn diet a maeth ar gyfer gwelliant personol yn ogystal ag ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn rolau iechyd, lles neu ffitrwydd.Mae’r cwrs hwn yn cynnwys mis o aelodaeth am ddim i Ystafell Ffitrwydd Coleg Sir Benfro.
-
Mathemateg
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â Mathemateg Bur a Chymhwysol ac mae’n bwnc gwych i’w gael ar Lefel-A ac mae’n cael ei gydnabod yn eang gan gyflogwyr a phrifysgolion. Os yw’n bwnc yr ydych wedi’i fwynhau hyd yma, pa reswm gwell i barhau i’w astudio!
-
Mathemateg – TGAU
Price range: £50.00 through £250.00Mae digon o resymau dros astudio TGAU Bioleg; boed hynny er mwyn cael gwell cymwysterau ar gyfer addysg uwch, creu mwy o lwybrau ar gyfer gyrfa, neu’n syml ar gyfer hunan-wella – mae sefyll TGAU fel oedolyn yn ffordd wych o ennill sgiliau newydd a chryfhau eich CV.
-
Mathemateg Bellach
Wedi’i anelu at fathemategwyr galluog sydd ag angerdd gwirioneddol am y pwnc ac sydd eisiau dilyn modiwlau ychwanegol, manwl.
-
Mathemateg TGAU Adolygu
£0.00Cynhelir cyrsiau adolygu TGAU Mathemateg ddwywaith y flwyddyn ac maent wedi’u cynllunio i helpu i wella’r sgiliau sydd eu hangen i basio’r arholiad Mathemateg.
-
Mynediad i Addysg Bellach
Datglowch eich potensial llawn gyda’n cwrs addysg bellach arbenigol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr â gallu academaidd nad ydynt, am wahanol resymau, wedi cyflawni portffolio TGAU.
-
Mynediad i Ofal Iechyd AU
Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi’i anelu at oedolion sy’n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddyn nhw o reidrwydd y cymwysterau i wneud cais.