Croeso

Coleg Sir Benfro yw’r darparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 mwyaf â’r ystod ehangaf yn y sir. Wedi’n lleoli mewn campws modern, pwrpasol yn Hwlffordd, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi rhagorol i bobl ifanc ac oedolion.

O gyrsiau Lefel-A a phrentisiaethau i raddau a dosbarthiadau nos rhan-amser, bydd ein cyrsiau yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Gyda thua 2,000 o ddysgwyr llawn-amser a 12,500 o ddysgwyr rhan-amser, mae tiwtoriaid y Coleg yn darparu fframwaith disgybledig a chefnogol sy’n canolbwyntio ar lwyddiant dysgwyr. I’r rhai sy’n gadael yr ysgol, mae’r Coleg yn darparu amgylchedd bywiog, ysgogol sy’n gweithredu fel carreg gamu tuag at y brifysgol a byd gwaith.

Mae’r Coleg yn falch o’i amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau ac offer, yn arbennig ein mannau astudio, ystafelloedd cyfrifiadura a TG, canolfan adeiladu, adain beirianneg, gweithdai dylunio ac, yn fwyaf diweddar, ein Canolfan Dysgu Lefel-A gwerth £6.6m – CAMPWS6.

Beth bynnag y byddwch yn dewis ei astudio, byddwch yn sicr o groeso cynnes yng Ngholeg Sir Benfro.

Dr Barry Walters Pennaeth
Croeso

Pam Dewiswch Ni

Gadewch i ni hybu eich uchelgais

Ble bynnag y mae eich angerdd byddwn yn eich helpu i ddatgloi eich potensial a’ch gosod ar y llwybr i gyflawni gyrfa eich breuddwydion. Dechreuwch eich taith gyda ni heddiw a byddwch chi un cam yn nes yn barod. #gwnewchiddoddigwydd

Cyfleusterau o safon diwydiant

Pa bynnag gwrs a ddewiswch byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau o safon diwydiant yn amrywio o stiwdios recordio i weithdai morol a bwyty a salonau masnachol a llawer, llawer mwy.

Cymorth anhygoel

Nid oes angen i chi wynebu’r byd ar eich pen eich hun. Yn y Coleg rydym wedi sefydlu tîm anhygoel o weithwyr cymorth proffesiynol i’ch helpu trwy gydol eich amser gyda ni.

Teithiau 3D y Coleg

Cewch weld rhannau o’r Coleg cyn i chi gyrraedd. Rydym yn defnyddio Matterport (gwefan allanol) i ddarparu profiad trochi, rhyngweithiol sydd ar gael yn unrhyw le.

Atriwm

Edrychwch o gwmpas atriwm y Coleg

Gweithdai

Taith o amgylch y Gweithdai Peirianneg ac Adeiladu

Ystafelloedd Celf

Cewch weld rhai o'n Hystafelloedd Dosbarth Celf a Dylunios

Bwyty

Taith o amgylch ein bwyty a cheginau hyfforddi safon diwydiant

Salonau

Edrychwch ar ein salonau trin gwallt a harddwch ac ystafelloedd hyfforddi

Ystafell Reoli

Archwiliwch ein hystafell reoli lle rydym yn cynnal ein hyfforddiant peirianneg ynni

Ein Tîm Rheoli

Barry Walters

Dr Barry Walters

Pennaeth
Jackie Mathias

Jackie Mathias

Pennaeth Cynorthwyol
Caroline James

Caroline James

Pennaeth Cynorthwyol - Cyllid ac Adnoddau
Blank headshot placeholder.

Eva Rees

Cyfarwyddwr Taith y Dysgwr
Headshot of Berni Tyler.

Berni Tyler

Cyfarwyddwr y Consortiwm