Canlyniadau Gwych O Gynlluniau Gwych
Ein Cenhadaeth: Mynd ar drywydd rhagoriaeth, grymuso unigolion a datblygu gweithlu'r dyfodol.
Mae Coleg Sir Benfro yn ddarparwr addysg bellach, addysg uwch a dysgu seiliedig ar waith deinamig ac o ansawdd uchel gyda bron i 2,000 o ddysgwyr a phrentisiaid llawn-amser a 13,000 o ddysgwyr a phrentisiaid rhan-amser. Mae’r Coleg yn cyflogi dros 500 o staff dawnus ac ymroddedig sydd â chymwysterau da, sy’n gefnogol ac yn gofalu am eu myfyrwyr.
Mae Coleg Sir Benfro yn cynnig darpariaeth academaidd a galwedigaethol gynhwysfawr, sy’n cwmpasu holl feysydd y cwricwlwm, gan gynnwys y sectorau blaenoriaeth sef Iechyd a Gofal, Peirianneg, Adeiladu, Bwyd a Ffermio, Gwyddor Bywyd, Cyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth, Cyllid, Twristiaeth, Lletygarwch, Arlwyo a’r Celfyddydau Creadigol.
Polisïau, Dogfennau Stratego, Amgylcheddol a Llywodraethu
Dogfennau
- Polisi Derbyn
- Adolygiad Blynyddol
- Polisi Gwrth-fwlio
- Polisi Cyngor ac Arweiniad Gyrfa
- Cod Ymarferion Cyflogaeth Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
- Cynllun Strategol y Coleg
- Polisi Cyfathrebu
- Polisi Canmoliaeth a Chwynion
- Polisi Cwcis (Saesneg yn Unig)
- Polisi Gofal Cwsmer
- Polisi Mynediad a Diogelu Data
- Adroddiad Effaith Blynyddol Menter
- Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Adroddiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cynllun Strategol Cydraddoldeb
- Adroddiad Arolwg Estyn
- Polisi Arweiniad ynglyn ag Arholiadau
- Polisi Ffioedd
- Cyfrifon Ariannol
- Polisi Addasrwydd i Astudio
- Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Strategaeth Iechyd a Lles
- Strategaeth Pobl Ifanc sy'n Derbyn Gofal
- Strategaeth Mwy Galluog a Thalentog
- Strategaeth Tlodi
- Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Ansawdd a Safonau
- Polisi Diogelu
- Canllawiau Trafnidiaeth Arbennig (ADY)
- Polisi Presenoldeb Myfyrwyr a Thynnu'n Ôl
- Polisi Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr
- Polisi Apeliadau Mewnol Myfyrwyr
- Polisi Ymddygiad a Disgyblu Myfyrwyr Cadarnhaol
- Polisi Cludiant Myfyrwyr
- Gwybodaeth Yswiriant Teithio Myfyrwyr (Saesneg yn Unig)
- Polisi Datblygu Cynaliadwy
- Adroddiad Cynaladwyedd
- Ymwadiad Gwefan a Datganiad Hygyrchedd
- Polisi'r Gymraeg
Effaith Amgylcheddol
Mae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i leihau ei effaith amgylcheddol a’i allyriadau carbon ers 2002. Ym mis Hydref 2021, adnewyddodd y Coleg yr ymrwymiad hwnnw ac ymrwymo i Carbon Sero Zero erbyn 2030.
Mae’r Coleg yn cydnabod ac yn cymryd o ddifrif ei sefyllfa freintiedig o ran gallu dylanwadu ar bobl ifanc i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.
Mae’r Coleg wedi datblygu cynllun gwella amgylcheddol sy’n canolbwyntio nid yn unig ar ei ôl troed carbon mesuradwy ond ar gamau gweithredu ehangach fel bioamrywiaeth.
Mae’r Coleg wedi mabwysiadu ‘Canllawiau Adrodd Carbon Sero Net 2030 Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus’. Mae’r Coleg yn falch o fod wedi mabwysiadu’r canllawiau hyn yn gynnar.
Mae’r Coleg wedi’i ardystio i Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 5 ers 2013. Lefel 5 yw’r lefel uchaf ac mae’n dangos safonau uchel y Coleg o reolaeth amgylcheddol. Mae ardystio yn cynnwys archwiliad blynyddol.
Mae’r Coleg wedi lleihau ei ddefnydd trydan blynyddol gan 52% ers 2002 trwy ddefnyddio technoleg werdd a mesurau arbed ynni a bwriadwn wella hyn. Rydym wedi ymrwymo i dariff trydan gwyrdd sy’n golygu bod yr holl drydan a gawn o’r grid yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.
Mae safleoedd y Coleg yn cynhyrchu ac yn defnyddio tua 36,400 kWh o drydan a gwres adnewyddadwy bob blwyddyn trwy dechnolegau gwyrdd fel paneli solar a phympiau gwres o’r ddaear. Mae hynny’n cyfateb i ddarparu trydan i 10 tŷ cyffredin. Mae defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy yn ffocws allweddol i’n hymrwymiad i carbon sero net erbyn 2030.
Mae’r Coleg yn cydnabod effaith byd-eang gwastraff bwyd. Mae ein staff arlwyo a’n dysgwyr yn rhoi prydau heb eu gwerthu i fanc bwyd y Coleg. Yn helpu cymuned ein Coleg a lleihau gwastraff bwyd.
Mae’r Coleg wedi lleihau ei ddefnydd dŵr blynyddol gan 53% ers 2002 trwy fentrau arbed dŵr. Mae’r arbediad yn cyfateb i ddefnydd 24 o gartrefi bob blwyddyn.
Mae gan y Coleg lawer o fywyd gwyllt ar y safle eisoes ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wella hyn. Mae’r cynlluniau’n cynnwys gwestai chwilod, blychau gwenoliaid, planhigion peillio, dolydd blodau gwyllt a chychod draenogod.
Ôl troed carbon cyn-bandemig y Coleg yw 852,783 kgs CO2e. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i wella hyn a bod yn garbon sero net erbyn 2030.
Mae’r Coleg wedi lleihau ei ddefnydd o nwy gan 52% ers 2002 trwy fentrau arbed ynni. Rydym wedi ymrwymo i leihau hyn ymhellach a bod yn carbon sero net erbyn 2030.
Safonau'r Gymraeg
Mae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel y’u nodir gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’r Safonau yn gyfres o ofynion cyfreithiol-rwymol sy’n anelu at wella’r gwasanaeth dwyieithog y gall pobl Cymru ddisgwyl ei dderbyn gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol, gan gynnwys prifysgolion a cholegau.
Mae’r Safonau’n egluro sut mae disgwyl i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Mae’r dyletswyddau sy’n dod o’r Safonau yn golygu na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg (ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau o ddydd-i-ddydd).
Mae’n ofynnol i Goleg Sir Benfro gydymffurfio â’r Safonau a ganlyn:
- Darparu Gwasanaeth
- Llunio Polisi
- Gweithredol
- Cadw Cofnodion
Nod y Safonau yw:
- ei gwneud yn glir i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
- ei gwneud yn gliriach i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
- gwneud gwasanaethau Cymraeg yn fwy cyson a gwella eu hansawdd
Mae’r Safonau sy’n berthnasol i Goleg Sir Benfro wedi’u rhestru yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Darllenwch adroddiad monitro blynyddol y Coleg ar gydymffurfiaeth â’r Safonau.
Mae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac yn cefnogi hawl ein dysgwyr, staff a’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r Coleg.
Rydym yn croesawu sylwadau o bob math, boed yn gwynion neu ganmoliaeth, fel ein bod yn gallu dysgu o unrhyw ddiffygion a sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn rhannu arfer da.
Dyma gopi o’r drefn gwyno mewn perthynas â’r Safonau neu unrhyw agwedd arall yn ymwneud â’r Gymraeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am Safonau’r Gymraeg y Coleg, cysylltwch â Swyddog Datblygu’r Gymraeg:
Llywodraethu
Yn unol â Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) 2014, mae’n ofynnol i bob Coleg Addysg Bellach gael Corff Llywodraethu. Gelwir Corff Llywodraethol y Coleg yn Fwrdd y Gorfforaeth. Mae Bwrdd y Gorfforaeth yn atebol am osod cymeriad addysgol, cenhadaeth a chyfeiriad strategol y Coleg ac mae’n goruchwylio ei weithgareddau a’i berfformiad. Mae’r Bwrdd hefyd yn atebol am y defnydd priodol o arian cyhoeddus a ymddiriedwyd iddo.
Mae strwythur llywodraethu Bwrdd y Gorfforaeth yn cynnwys sefydlu “Corff Aelodaeth” i ddatblygu perthnasoedd ymhellach gyda busnesau, ysgolion, sefydliadau gwirfoddol a’r cyhoedd ehangach ac annog mwy o gyfranogiad cymunedol ac integreiddio â’r Coleg. Gelwir y Corff hwn yn Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro. Bydd Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro yn cyfarfod bob tymor a bydd yn gweithredu fel Corff ymgynghorol a lle bo’n briodol bydd yn gwneud argymhellion i Fwrdd y Gorfforaeth.
Mae’r Coleg yn gweithredu o fewn Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu.
Calendr o gyfarfodydd i ddod
Sylwer: weithiau gall dyddiadau newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl
- 24 Medi 2024, 15:30 – Pwyllgor Chwilio a Thâl
- 26 Medi 2024, 08:30 – Pwyllgor Ansawdd a Safonau
- 08 Hydref 2024, 08:00 – Pwyllgor Archwilio
- 15 Hydref 2024, 16:00 – Pwyllgor Canolfan Lefel-A
- 22 Hydref 2024, 17:00 – Bwrdd
- 12 Tachwedd 2024, 16:30 – Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro
- 19 Tachwedd 2024, 08:00 – Pwyllgor Archwilio – Cyflwyno’r Cyfrifon
- 26 Tachwedd 2024,
15:30 – Pwyllgor Chwilio a Thâl - 03 Rhagfyr 2024, 17:00 – Bwrdd
- 11 Chwefror 2025, 08:00 – Pwyllgor Archwilio
- 4 Mawrth 2025, 16:00 – Pwyllgor Canolfan Lefel-A
- 11 Mawrth 2025, 15:30 – Pwyllgor Chwilio a Thâl
- 20 Mawrth 2025, 08:30 – Pwyllgor Ansawdd a Safonau
- 25 Mawrth 2025, 17:00 – Bwrdd
- 8 Ebrill 2025, 16:30 – Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro
- 6 Mai 2025, 15:30 – Pwyllgor Chwilio a Thâl
- 13 Mai 2025, 16:00 – Pwyllgor Canolfan Lefel-A
- 20 Mai 2025, 17:00 – Bwrdd
- 5 Mehefin 2025, 08:30 – Pwyllgor Ansawdd a Safonau
- 10 Mehefin 2025, 08:00 – Pwyllgor Archwilio
- 12 Mehefin 2025, 09:00 – Sesiwn Cynllunio’r Bwrdd
- 17 Mehefin 2025, 16:00 – Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro
- 24 Mehefin 2025, 15:30 – Pwyllgor Chwilio a Thâl
- 08 Gorffennaf 2025, 17:00 – Bwrdd
Steven Richard Downes
Adroddiad Blynyddol
- Catherine Freeman
- Swyddog Llywodraethu
- 01437 753 276
- c.freeman@pembrokeshire.ac.uk