Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Canlyniadau A-Rdderchog

A-level Students on results day

Mae myfyrwyr Lefel-A a Diploma Estynedig Coleg Sir Benfro yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau a sicrhau lleoedd yn rhai o brifysgolion enwocaf y DU.

Er gwaethaf blwyddyn arall o addysg fylchog oherwydd y pandemig byd-eang, mae myfyrwyr Coleg Sir Benfro wedi cyflawni set anhygoel o ganlyniadau. Gyda’r cyfyngiadau’n codi, mae eu dyfodol yn edrych yn ddisglair gan eu bod bellach yn bwriadu symud ymlaen i astudio ymhellach neu’n uniongyrchol i fyd gwaith.

Mae dadansoddiad o’r canlyniadau yn dangos bod 41% o fyfyrwyr Lefel-A wedi cyflawni graddau A* – A a bod 85% wedi cyflawni graddau A* – C. Gyda niferoedd cynyddol o fyfyrwyr yn dewis astudio’u Lefel-A yn y Coleg, roedd 354 o ganlyniadau ar radd A* – C allan o gyfanswm o 418 o gofrestriadau yn y Coleg.

Yn y cyfamser, parhaodd myfyrwyr Diploma Estynedig i godi’r bar gyda 46% yn cyflawni graddau Rhagoriaeth a Rhagoriaeth*, sy’n cyfateb i A* – A ar Lefel-A.

Mae 298 o fyfyrwyr Lefel-A a Diploma Estynedig bellach yn cynllunio ar symud ymlaen i’r brifysgol i ddatblygu eu hastudiaethau.

Eleni bydd dau fyfyriwr Lefel-A yn sicrhau lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bydd Imogen Grimes (A*A*AA) yn astudio Hanes Celf, a bydd Samuel Rummery yn astudio Peirianneg ar ôl sicrhau A*A* ac A* mewn EPQ ochr yn ochr â thair gradd A* y llynedd. Gydag A*A*A*A*, mae Cian Phillips yn cymryd blwyddyn i ffwrdd cyn cynllunio i symud ymlaen i Gaergrawnt i astudio Peirianneg.

Ymhlith y myfyrwyr Lefel-A eraill a lwyddodd i gael canlyniadau rhagorol oedd: Eryn Coombs (A*A*A*), sydd bellach yn mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Optometreg; Emily Griffiths (A*A*A*A) sy’n mynd i Brifysgol Southampton i astudio Peirianneg Awyrofod; Ieuan Davies (A*A*A* ac A mewn EPQ) sy’n mynd i Brifysgol Leeds i astudio Peirianneg Niwclear a Chemegol; Luke Humphrey (AAAA) sy’n mynd i Goleg Imperial Llundain i astudio Biowyddorau Meddygol; a Megan Owens (A*A*AA ac A* mewn EPQ) sy’n mynd i Brifysgol Newcastle i astudio Meddygaeth. Ymhlith y myfyrwyr eraill a enillodd sawl gradd A* oedd: Sophie Barfoot, Kyle Jennings, Tegan Kuhl, Lucie Mathias, Amy Thompson, Ceri Watts, Eliza Wolfe, Brian Chan, Vanessa Cheung a Finlay Ryder.

Hoffem hefyd longyfarch ein myfyrywr sydd wedi gwneud cynnydd eithriadol yn ystod eu hastudiaethau Lefel-A, gan gynnwys Pollyanna Rees (A*AA) sy’n mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gyfraith a Damien Howbrook-West (AAAB) sy’n mynd i Brifysgol Aberystwyth gydag ysgoloriaeth i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.

Hoffai’r Coleg hefyd longyfarch yn gynnes i’w holl fyfyrwyr Ffederasiwn. Yn benodol, hoffem estyn ein llongyfarchiadau i Izzy-May Solomon o Ysgol Aberdaugleddau, sy’n symud ymlaen i astudio yng Nghaergrawnt ac i Declan Connellan o Ysgol Harri Tudur, sydd wedi sicrhau lle diamod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dyma’r ail le yn olynol a sicrhawyd yn y Conservatoire gan fyfyrwyr sy’n astudio cerddoriaeth Lefel-A yn y Coleg.

Eleni hefyd gwelwyd myfyrwyr Diploma Cenedlaethol BTEC yn rhagori unwaith eto gyda llawer o fyfyrwyr yn cyflawni graddau Rhagoriaeth ac yn cymryd lleoedd mewn prifysgolion ledled y DU i astudio ystod o bynciau gan gynnwys Ffisiotherapi Milfeddygol, Pensaernïaeth, Gwallt, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynhyrchu, Sŵoleg. Peirianneg Awyrofod a Niwrowyddoniaeth.

Yn mynd i Brifysgol Caerdydd gyda thair gradd Rhagoriaeth* mae myfyrwyr Gwyddor Iechyd, Annie Stevens, i astudio Radioleg a Charlotte Ault i astudio Bydwreigiaeth, ochr yn ochr â’r myfyriwr Gwyddoniaeth Gymhwysol Osian Feild i astudio Cemeg.

Mae cyrchfannau prifysgol ar gyfer myfyrwyr Coleg Sir Benfro yn rhychwantu hyd a lled y DU ac yn cynnwys: Bryste, Caerwysg, Aberystwyth, Durham a Chaeredin.

Ar ôl derbyn canlyniadau eleni, dywedodd y Pennaeth Dr Barry Walters: “Ar ôl blwyddyn arall o gyfnodau clo a dysgu o bell, ni ddylid bychanu cyflawniadau myfyrywr sy’n cwblhau eu rhaglenni astudio eleni.

“Er bod arholiadau ffurfiol wedi’u canslo am yr ail flwyddyn yn olynol, disodlwyd y rhain gan set drylwyr o asesiadau ac mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dyst i waith caled ein myfyrwyr.

“Rydym yn falch iawn o weld dau fyfyriwr yn sicrhau eu cynnig o le ym Mhrifysgol Caergrawnt tra bod llawer o rai eraill wedi derbyn lleoedd mewn sefydliadau proffil uchel eraill Russell Group a Sutton Trust.

“I’n holl fyfyrwyr sydd bellach yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y DU, neu’n mynd yn syth i gyflogaeth, rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y Coleg, cysylltwch â Derbyniadau.

Shopping cart close