Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Creu Argraff: Arddangos Gwaith Celf Graddedig yn Wythnos Cymru Llundain

Fine Art Graduate Work

Cafodd gwaith naw o raddedigion BA (Anrh) Celfyddyd Gain Coleg Sir Benfro ei arddangos yn ddiweddar yn The Gallery Yr Oriel yn Nhrefdraeth, Sir Benfro ac mae nawr yn mynd i gael ei arddangos yn Oriel Woolff, Fitzrovia Llundain yn ystod Wythnos Celf Gymreig (1af Mawrth – 4ydd Mawrth).

Yr Oriel Lansiodd Yr Oriel y Sioe Graddedigion BA (Anrh) gyntaf mewn Celfyddyd Gain ar 27 Ionawr gyda Noson Agoriadol yn croesawu aelodau o’r cyhoedd ac artistiaid lleol i edmygu’r amrywiaeth eang o gelf. Graddedigion Coleg Sir Benfro a fu’n rhan o’r arddangosfa oedd; Adam Davies, Jess Kate, Mandie Davies, Tunde Komar, Kevin McCarney, Indira Mukherji, Katy Rowe, Faith Ryder a Lee Woodmass.

Roedd y Sioe Gelf yn Yr Oriel Yr Oriel yn llwyddiant mawr gyda dau ddarn yn cael eu prynu yn ystod y lansiad. Oriel Woolff yn Llundain sydd nesaf i arddangos gwaith y graddedigion ar gyfer Wythnos Cymru Llundain ym mis Mawrth. Hon fydd y nawfed Wythnos Gelf Gymreig sy’n dathlu diwylliant Cymru drwy gelf gyda gwesteion arbennig Jamie Owen, awdur a darlledwr Cymreig, a’r telynorion Cymreig Marian O’Toole a Heledd Wynn Newton. Mae llyfr newydd ‘Brandio’r Genedl Gymreig’ gan Peter Lord a Rhian Davies hefyd yn mynd i ymddangos ochr yn ochr â chelf graddedigion Coleg Sir Benfro.

Rhannodd llefarydd Oriel yr Oriel: “Mae’n fraint fawr hyrwyddo’r myfyrwyr hyn, ac mae eu darnau o waith celf yn enghraifft o sut mae’r cwrs yn caniatáu ar gyfer ehangder astudio ar draws y disgyblaethau gyda gweithdai ymarferol a sesiynau stiwdio sy’n sail i werth a proses greadigol gyfannol.”

Dywedodd Phil Ratcliff, Cyfarwyddwr Rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Dylunio yng Ngholeg Sir Benfro: “Mae’n gymaint o fraint i ddetholiad o’n graddedigion gradd fod yn rhan o Wythnos Celf Cymru a gynhelir yn Llundain. I mi’n bersonol, mae’n werth chweil gwybod bod y gwaith hwn yn adlewyrchiad o ymrwymiad ac ymroddiad tîm addysgu Celf a Dylunio Coleg Sir Benfro.”

Shopping cart close