Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Coleg Sir Benfro Yn Arwain Y Ffordd

Students in Brick Workshop

Mae’r pandemig wedi cyflwyno sawl her, ac yn eu mysg sut rydym yn parhau i addysgu ein pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gallu ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae Coleg Sir Benfro wedi bod yn arwain y ffordd gan ddarparu dysgu byw ar-lein a dod o hyd i leoedd ychwanegol i ddysgwyr gwblhau gweithgareddau ymarferol.

Yn dilyn cyhoeddiad mis Chwefror gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a ganiataodd i gyrsiau masnach mewn Peirianneg ac Adeiladu ddychwelyd gyda phellter cymdeithasol o ddwy fetr, gweithiodd y Coleg yn gyflym i roi cynlluniau ar waith i ddarparu ar gyfer cymaint o ddysgwyr â phosibl.

Roedd y cyfyngiadau pellhau cymdeithasol newydd yn golygu na allai dysgwyr bod mewn ‘swigod’ gan leihau capasiti mewn llawer o weithdai’r Coleg i chwarter. Roedd hyn yn golygu mai dim ond unwaith bob pedair wythnos y byddai dysgwyr yn gallu mynychu tra bod y trefniadau pellhau cymdeithasol yn aros yn eu lle. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, ffurfiodd Coleg Sir Benfro bartneriaeth â Chymdeithas Amaethyddol Sir Benfro (PAS) i agor cyfleuster dros dro ar faes y sioe yn Llwynhelyg. Cymerodd newid adeilad 2,500m2 Camrose yn weithdy gwaith brics a Neuadd Brithdir fel man ychwanegol, bythefnos yn unig o’r trafodaethau cychwynnol i agor y drysau i’r dysgwyr cyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd PAS: “Ro’n i’n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda Choleg Sir Benfro ar y prosiect hwn. Rydyn ni’n falch iawn bod y cyfleusterau amlbwrpas ar faes ein sioe yn addas at ddefnydd y Coleg, a’n bod mewn sefyllfa i allu cefnogi’r Coleg yn ystod cyfnod a fu’n anodd iawn i ddysgwyr a darparwyr addysg.”

Ychwanegodd Pennaeth y Gyfadran Peirianneg ac Adeiladu yn y Coleg, Arwyn Williams, a arweiniodd ar y prosiect: “Rydyn ni’n ddiolchgar i’r PAS am eu hymateb cyflym i ganiatáu i ni rentu’r ddau adeilad ar faes y sioe ac i’n contractwyr A&V Builders ac EMC Electrical ar gyfer ymgymryd â’r gwaith mewn cyfnod mor fyr.

“Mae agor gweithdy newydd sy’n gallu lletya 60 o ddysgwyr ar ddwy fetr, wedi golygu bod dysgwyr nawr nôl yn y Coleg yn gweithio tuag at eu cymwysterau.”

Aeth Arwyn ymlaen i ddweud: “Rydyn ni hefyd wedi agor dau weithdy newydd ar ein prif gampws yn Hwlffordd ar yr un pryd i ganiatáu i gyfanswm o 30 o ddysgwyr ychwanegol y dydd fynychu eu cyrsiau Plymio a Gwaith Saer. Mae gyda ni dros 1,000 o ddysgwyr yn astudio Peirianneg ac Adeiladu yn y Coleg ac mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu helpu a chefnogi pob un i gyflawni eu cymwysterau a symud ymlaen i gyflogaeth.”

Mae agor y cyfleusterau ychwanegol wedi bod yn bosibl diolch i Lywodraeth Cymru am sicrhau bod cronfa ariannu newydd o dros £23m ar gael i golegau addysg bellach ledled Cymru i’w helpu i ailagor eu drysau i ddysgwyr mewn modd diogel COVID. Mae cyhoeddiadau pellach yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi golygu y bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i’r Coleg o’r 12fed o Ebrill ar draws gweddill y meysydd pwnc.

Shopping cart close