Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Myfyriwr Hyfforddeiaeth Yn Gosod Sylfaen Ar Gyfer Gyrfa Lwyddiannus Yn Y Diwydiant Adeiladu

Ross-Vincent

Mae dysgwr adeiladu Coleg Sir Benfro, Ross Vincent ar y trywydd iawn am yrfa yn y fasnach adeiladu diolch i raglen Hyfforddeiaeth a daniodd ei ddiddordeb mewn gosod brics.

Mae Ross wedi symud ymlaen o’r rhaglen Hyfforddeiaeth i sicrhau prentisiaeth gydag Evan Pritchard Contractors yn Hwlffordd, lle mae ei dad, Carl, yn rheolwr safle.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Ymgysylltu a Hyfforddeiaethau Lefel 1 mewn Gwaith Brics, mae bellach yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 2 mewn Gosod Brics yn ogystal â Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Tir ac mae wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Dysgwr Hyfforddiant y Flwyddyn (Ymgysylltu) yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2021.

Bydd y dathliad blynyddol hwn o gyflawniad rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yn gweld 35 yn y rownd derfynol yn cystadlu mewn 12 categori am wobrau. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar Ebrill 29.

Uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau’n arddangos busnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae Openreach, busnes rhwydwaith digidol y DU a chefnogwr angerddol prentisiaethau, wedi adnewyddu ei brif nawdd i’r gwobrau.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ar ôl methu â chwblhau cwrs blaenorol yn y Coleg, dywedodd Ross fod yr Hyfforddeiaethau yn fwy addas iddo oherwydd bod mwy o waith ymarferol, yn caniatáu iddo ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

“Fe wnaeth yr Hyfforddeiaethau mewn Gwaith Brics ganiatáu i mi dyfu i fyny, dysgu sgiliau ymarferol a damcaniaethol newydd yn ogystal â magu mwy o hyder,” meddai. “Trwy’r sesiynau cyflogadwyedd, sylweddolais pa mor bwysig yw cael swydd a gweithio’n galed mewn bywyd i gael y pethau rydych chi eu heisiau.

“Ro’n i wir eisiau llwyddo, ar ôl gwneud camgymeriad y flwyddyn flaenorol a, gyda gwaith caled a’r gefnogaeth gywir gan fy nhiwtoriaid, roeddwn i’n gallu gwneud hyn. Erbyn hyn mae gen i swydd yn gwneud rhywbeth rwy’n ei fwynhau.

“Mae gen i Marc Slaney fel mentor ar y safle sydd wedi bod yn friciwr ers 40 mlynedd ac sy’n dysgu popeth y mae’n ei wybod i mi.”

Trawsnewidiodd ei ffocws ar ddysgu crefft agwedd Ross tuag at Goleg. Ar wahân i fynychu’r Coleg ac ymgysylltu’n llawn â sesiynau dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo, anogodd ei gyd-ddysgwyr hefyd i wneud y gorau o’r sefyllfa.

Ar ôl cwblhau ei Raglenni Hyfforddeiaeth, cynhaliodd Ross dreial 1 mis gydag Evan Pritchard a arweiniodd at gael ei gyflogi.

Dywedodd Tom Powell, darlithydd cyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Benfro, fod yr Hyfforddeiaethau wedi aeddfedu Ross, gan roi mwy o hyder iddo weithio’n galed i gyflawni ei nodau.

“Mae Ross wedi llwyddo i droi ei hun reit rownd, ar ôl i’w ymgais gyntaf yn y coleg ddim mynd yn dda iawn,” ychwanegodd. “Mae’n enghraifft wych o ba mor llwyddiannus y gall roi cyfle arall i ddysgwyr pan fyddan nhw’n gwneud camgymeriad.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau gyrfa ac rwy’n falch iawn ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hwn.

“Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig rydym yn gwybod sydd eu hangen ar fusnesau ar draws pob sector o’r economi yng Nghymru mewn gwirionedd. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn rhoi cyfle gwych i ddathlu ac arddangos cyflawniadau pawb sy’n cymryd rhan, o brentisiaid sy’n serennu i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a dymuno’r gorau i bawb yn y dyfodol.”

Shopping cart close