Cyfrifiadura Cymhwysol

Cyfrifiadura Cymhwysol
Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Cyfrifiadura Cymhwysol
Mae twf aruthrol y Rhyngrwyd, y llu o rwydweithiau cyfrifiadurol, dyfeisiau rhaglenadwy a systemau gwybodaeth mewn amrywiol ffurfiau a chyflymder y newid parhaus yn sicrhau gofyniad mawr am weithwyr sydd â sgiliau a chymwysterau cyfrifiadurol cyfoes.
SKU: 1006F7332
MEYSYDD:Cyfrifiadura
DYSGWYR:Dysgwyr sy'n Oedolion, Lefel Uwch
ID: 18717
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£2,196
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r rhaglen Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) hon wedi’i dylunio i gynhyrchu graddedigion sydd â’r gallu priodol i weithio yn y diwydiant systemau cyfrifiadurol a gwybodaeth sy’n ehangu’n gyflym yn y DU.
Mae’r arbenigedd a’r sgiliau a ddatblygwch yn ystod y rhaglen astudio yn cael eu parchu’n fawr gan gyflogwyr.
Byddai cyfrifiadur cartref diweddar yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, dros 2 flynedd, gan ddechrau ym mis Medi.
Mae’r coleg yn gorff cysylltiedig i Brifysgol Cymru ac wedi’i ddynodi’n Sefydliad Technegol Prifysgol Cymru (STPC). Mae’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro, Choleg Sir Gâr, Coleg Ceredigion, Coleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Colegau NPTC i ddatblygu addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y rhwydwaith o Sefydliadau Technegol ei lywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.
Mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau a ddarperir gan y coleg fel un o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru yn derbyn dyfarniad a ddilysir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- 32 pwynt Tariff UCAS o gymhwyster Lefel-A neu alwedigaethol
- Bydd mynediad uniongyrchol i ymgeiswyr sydd wedi bod allan o addysg llawn-amser am fwy na dwy flynedd yn cael eu hystyried yn seiliedig ar ddysgu neu brofiad blaenorol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Gall mynediad fod yn amodol ar gyfweliad
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- 32 pwynt Tariff UCAS o gymhwyster Lefel-A neu alwedigaethol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:
- Saernïaeth Gyfrifiadurol a Systemau Gweithredu – rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y cysyniadau allweddol y tu ôl i saernïaeth gyfrifiadurol nodweddiadol, caledwedd, rhwydweithiau a systemau gweithredu.
- Dadansoddi Data a Delweddu – datblygu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr sydd eu hangen i wneud dadansoddiad ystadegol sylfaenol o ddata arbrofol a chyflwyno amrywiaeth eang o dechnegau a ddefnyddir i arddangos gwahanol fathau o ddata yn effeithiol. Bydd dysgwyr yn dysgu dylunio cyflwyniadau data ar gyfer arddangosiadau statig a rhyngweithiol.
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfa Ddata – rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r cysyniadau a’r egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen i ddylunio a gweithredu cronfeydd data perthynol ac adeiladu a gweithredu tudalennau gwe.
- Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd – datblygu sgiliau dysgwyr ar gyfer astudio annibynnol a dysgu gydol oes, a fydd yn sail i gwblhau eu rhaglen radd yn llwyddiannus ac yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
- Hanfodion Rhwydwaith a Seiberddiogelwch – rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o gysyniadau allweddol a hanfodion cyfathrebu data, rhwydweithiau cyfrifiadurol a diogelwch data a dyfeisiau mewn rhwydwaith.
- Datblygu Meddalwedd – cyflwyniad i luniadau meddalwedd ac i ddatblygu meddalwedd gan ddefnyddio iaith raglennu lefel uchel. Bydd cysyniadau dylunio syml ac arferion rhaglennu da yn cael eu mabwysiadu.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar gyfer gyrfaoedd mewn busnes a diwydiant fel staff cymorth TG dan hyfforddiant, technegwyr cyfrifiaduron, rhaglenwyr, dadansoddwyr neu yrfaoedd cysylltiedig.
Bydd cwblhau’r HNC yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad i gyrsiau Gradd Genedlaethol Uwch (HND)/gradd mewn pynciau cysylltiedig.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Sut gallaf dalu am y cwrs hwn?
Dysgwch am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch ar ein cyllid myfyrwyr dudalen.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 flynedd |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/12/2023