Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cyn Fyfyriwr y Coleg Fel Rhan Tîm y DU yn yr Euroskills

Sam-Everton

Pedwar ar ddeg o Broffesiynolion Perffaith ym Mhrawf Pwysedd Ôl-Brexit ‘Epic’

Mae un deg pedwar o brentisiaid a gweithwyr proffesiynol ifanc gorau’r DU wedi’u dewis i wynebu y gorau o’r goreuon ymysg eu cyfoedion Ewropeaidd ym mhrawf pwysedd sgiliau mawr cyntaf yn yr oes ar ôl Brexit – EuroSkills.

Mae cyn-fyfyriwr lletygarwch Coleg Sir Benfro, Sam Everton, sydd bellach yn cael ei gyflogi gan The Grove, Arberth, wedi sicrhau un o’r safleoedd clodwiw yn Nhîm y DU. Mae dewis Sam yn dilyn ei lwyddiant yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia y llynedd lle sicrhaodd Fedal Ragoriaeth.

Bydd Tîm y DU – a ddewiswyd, a hyfforddwyd ac a fentorwyd gan yr elusen addysg a sgiliau WorldSkills UK – yn mynd i Awstria ym mis Ionawr (6 – 10) i gystadlu gyda dros 500 o gystadleuwyr o 28 gwlad sy’n ymarfer 45 o ddisgyblaethau sgiliau gwahanol.

Mae’r gystadleuaeth yn Graz, a ohiriwyd oherwydd argyfwng Covid, yn cael ei hystyried yn ddangosydd pwysig o ran sut mae systemau sgiliau’r DU yn mesur yn erbyn cystadleuwyr economaidd allweddol ledled Ewrop.

Bydd Tîm y DU yn cystadlu mewn ystod eang o ddisgyblaethau yn amrywio o beirianneg i adeiladu, o letygarwch i’r digidol a chreadigol.

Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE: “Anghofiwch yr Ewros y tymor nesaf, bydd hyn yn epig, ac yn llawer mwy sylfaenol i ddyfodol ein gwlad – mae dangos bod y genhedlaeth nesaf yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnon ni i helpu i adeiladu ar ein heconomi yn well a pharhau’n gystadleuol yn rhyngwladol.

“Bu cymaint o ragdybiaeth ynghylch sut bydd y Deyrnas Unedig yn ffynnu o ran perfformiad sgiliau. Bydd y gystadleuaeth gyda 27 o’n cymdogion agos ar draws y cyfandir yn feincnod gwych ac yn dangos yr hyn mae Tîm y DU wedi’i wneud o.”

Mae’r un deg pedwar gwych eisoes wedi bod trwy broses blwyddyn o gystadlaethau rhanbarthol, rowndiau terfynol cenedlaethol a dewis tîm i gyrraedd y pwynt hwn. Nawr maen nhw’n wynebu misoedd o hyfforddiant dwys yn codi safonau i lefel ryngwladol elitaidd, o dan arweiniad Rheolwyr Hyfforddiant WorldSkills UK.

Bydd llywodraethau a diwydiant yn gwylio gyda diddordeb i feincnodi pa mor dda y mae Tîm y DU yn perfformio o’i gymharu â’r prif gystadleuwyr Ewropeaidd. Yn rowndiau terfynol blaenorol EuroSkills, a gynhaliwyd yn 2018 yn Budapest, gorffennodd Tîm y DU yn nawfed. Bydd WorldSkills UK yn defnyddio ei gyfranogiad yn Rowndiau Terfynol EuroSkills i gyfarwyddo gwaith ei Ganolfan Ragoriaeth, mewn partneriaeth â NCFE, sy’n defnyddio mewnwelediadau unigryw WorldSkills UK i systemau sgiliau Ewropeaidd a byd-eang i brif ffrydio rhagoriaeth wrth ddatblygu sgiliau.

Shopping cart close