Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Llwyddiant Oxbridge i Fyfyrwyr y Coleg

Jess-Hillier

Mae myfyrwyr Lefel-A yng Ngholeg Sir Benfro yn dathlu ar ôl set drawiadol o ganlyniadau Lefel-A sydd wedi gweld pum myfyriwr yn sicrhau eu lleoedd i astudio naill ai yn Rhydychen neu Gaergrawnt.

Crynodeb o’r Canlyniadau

Cyfradd basio gyffredinol 100%

Gradd A*/A 36%

Gradd A* – C 88%


Mae dadansoddiad o’r canlyniadau yn dangos bod 36% o fyfyrwyr yn cyflawni graddau A* -A ac 88% yn cyflawni graddau A* -C. Gyda niferoedd cynyddol o fyfyrwyr Lefel-A, roedd 278 o ganlyniadau’r Coleg ar radd A* -C allan o gyfanswm o 315.

Gyda’r canlyniadau ar gyfer cyrsiau galwedigaethol bellach allan hefyd, mae dros 260 o fyfyrwyr Lefel-A a Diploma Estynedig nawr yn obeithiol o sicrhau eu lleoedd yn y brifysgol.

Y myfyrwyr sy’n mynd i Brifysgol Rhydychen yw Jessica Hillier (A*A*A*A) i astudio Bioleg yng Ngholeg Iesu, Lorna McEvoy (A*A*A) i astudio Hanes yng Ngholeg y Drindod a Lizzy Rowland (A*A*A) i astudio’r Gyfraith yng Ngholeg Eglwys Crist. Yn y cyfamser bydd y myrwyr Alyssa Baker a Callum Harries yn mynd i Brifysgol Caergrawnt. Bydd Alyssa (A*A*A*) yn astudio’r Gwyddorau Dynol, Cymdeithasol a Gwleidyddol yn Coleg Sussex Sydney tra bydd Callum (A*A*A*A*) yn astudio Peirianneg yng Ngholeg Churchill.

Hefyd yn mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio Ieithoedd Tramor Modern yng Ngholeg y Drindod mae Emma Nicholas, myfyriwr y Ffederasiwn. Hoffem ymuno ag Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau i longyfarch Emma ar ei chanlyniadau.

Mae llwyddiannau Lefel-A nodedig eraill yn cynnwys cyn-fyfyriwr Ysgol Bro Gwaun, Sam Rummery, a enillodd dair gradd A*. Llongyfarchiadau hefyd i gyn-fyfyrwyr Ysgol Penrhyn Dewi, Tom Sheppard a enillodd ddwy radd A* a gradd A, a Caitlin Howe a enillodd dair gradd A.

Eleni hefyd gwelwyd myfyrwyr Diploma Cenedlaethol BTEC yn rhagori unwaith eto gyda llawer o fyfyrwyr yn cyflawni graddau Rhagoriaeth ac yn cymryd eu lle mewn prifysgolion ledled y DU i astudio ystod o bynciau gan gynnwys Seiberddiogelwch, Gwyddorau Biolegol, y Gyfraith, Ffarmacoleg a Bydwreigiaeth.

Mae cyrchfannau prifysgol ar gyfer myfyrwyr Coleg Sir Benfro yn rhychwantu hyd a lled y DU ac yn cynnwys: Caerdydd, Bryste, Caerwysg, Aberystwyth, Durham a Chaeredin.

Ar ôl derbyn canlyniadau Lefel-A eleni, dywedodd y Pennaeth Dr Barry Walters: “Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i waith caled ein dysgwyr. Gyda lleoedd prifysgol yn cael eu cynnig cyn y cyfnod clo, yn seiliedig ar berfformiad a chyflawniadau pob dysgwr unigol, rydyn ni’n ymwybodol i beidio â gadael i’r sefyllfa bresennol dynnu oddi ar pa mor galed mae’r dysgwyr hyn wedi gweithio trwy gydol eu blwyddyn AS ac A2 i gyflawni’r canlyniadau a welwn heddiw.

“Amcangyfrifwyd graddau ar sail gwaith a gyflwynwyd eisoes ac mae’n bwysig nad yw cyflawniadau’r dysgwyr hyn yn cael eu tan-chwarae. Mae cael pedwar myfyriwr yn mynd ymlaen naill ai i Rydychen neu Gaergrawnt yn gyflawniad enfawr i’r dysgwyr eu hunain, y staff addysgu a’r Coleg cyfan. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o nodi cynnydd yn nifer ein myfyrwyr sy’n ennill lleoedd mewn Sefydliadau Russell Group a Sutton Trust proffil uchel eraill.

“I’r nifer sylweddol o ddysgwyr, o Lefel-A a Diplomâu Galwedigaethol, sydd bellach yn mynd ymlaen i brifysgolion ledled y DU i astudio amrywiaeth helaeth o raglenni, rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw ac yn gobeithio y byddan nhw’n cadw mewn cysylltiad wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy eu hastudiaethau ac i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y Coleg, cysylltwch â ar-lein.

Shopping cart close