Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Ei ddal, ei baratoi, ei goginio, ei fwyta

Hospitality Learners alongside Welsh Seafood Cluster and Menter a Busnes

Datblygodd dysgwyr lletygarwch flas go iawn ar fwyd môr yn ystod sesiwn ryngweithiol gyda Chlwstwr Bwyd Môr Cymru a Menter a Busnes.

Gyda fflyd o dros 400 o gychod pysgota trwyddedig yn cyflogi dros 1200 o bysgotwyr, mae diwydiant bwyd môr Cymru yn rhan bwysig o’r economi arfordirol.

Mae bwyd môr Cymreig yn enwog am ei ffresni a’i ansawdd gan fod y rhan fwyaf yn dod o gychod dydd y glannau a ffermwyr dyframaethu ar raddfa fach.

Mewn sesiwn a ariannwyd drwy’r ‘Gronfa Her Capasiti Arfordirol’ yn Llywodraeth Cymru, cymerodd dysgwyr ran yn y dulliau paratoi sydd eu hangen i weini bwyd môr o’r ansawdd uchaf gan gynnwys Penfras, Wystrys, Crancod, Cimychiaid, Chwyrnwyr, Morgathod a Macrell.

Ymunodd y Rheolwr Maes Cwricwlwm Mel Sharrad-Hughes yn y sesiwn, “Ro’n ni’n falch iawn o gynnal y digwyddiad Clwstwr Bwyd Môr. Roedd yn gyfle gwych i’n dysgwyr a’n staff ddeall mwy am ystod eang o fwyd môr ac i allu ei baratoi eu hunain. Braf oedd eu gweld mor brysur. Diolch am ddod â’r digwyddiad hwn i Goleg Sir Benfro, gobeithiwn eich gweld eto’n fuan.”

Mwynhaodd y dysgwyr y sesiwn yn fawr a’r cyfle i samplu’r pysgod cregyn.

Dywedodd Justin Henderson, dysgwr lletygarwch, “Fe wnes i a fy nghyd-fyfyrwyr fwynhau’r sesiwn yn fawr. Roedd yn hynod ddiddorol gweld y gwahanol fathau o fwyd môr y gellir ei weini ar blât a’r celf sydd ynghlwm wrth baratoi bwyd môr ar gyfer profiadau bwyta cain.”

Mae dysgwyr a staff lletygarwch yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Chlwstwr Bwyd Môr Cymru a Menter a Busnes yn y dyfodol ac archwilio mwy o brydau bwyd môr.

Dysgwch fwy am gyrsiau Lletygarwch y Coleg.

Shopping cart close