Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Ffilm taro’n galed yn enillydd

Tomos Bowie

Fel rhan o Gystadleuaeth Ymgyrch Cyfryngau Cymdeithasol Diogelwch Ffyrdd Cymru, rhoddwyd brîff i fyfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Coleg Sir Benfro greu ffilm fer i’w rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol partner Diogelwch Ffyrdd Cymru i godi ymwybyddiaeth am y 5 Angheuol.

Gwahoddwyd ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid o bob rhan o Gymru i ddyfeisio, perfformio a recordio ffilm fer yn rhybuddio am beryglon a chanlyniadau gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau, cyflymder, gyrru’n ddiofal, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

Yn dilyn proses feirniadu galed, cyhoeddwyd mai Tomos Bowie, myfyriwr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 yn y Coleg oedd yr enillydd cyffredinol gan dderbyn gwobr o £250.

Dywedodd Kirstie Donoghue o’r Tîm Diogelwch Ffyrdd: “Roeddem wrth ein bodd ag ansawdd yr holl geisiadau gan fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro ar gyfer cystadleuaeth Diogelwch Ffyrdd Cymru eleni – y pump angheuol. Roedd cais Tomos yn hynod effeithiol o ran darlunio nifer o’r negeseuon diogelwch allweddol hyn, bydd ei ffilm yn helpu i wneud defnyddwyr ffyrdd yn fwy ymwybodol o brif achosion gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru.”

Yn dilyn y cyhoeddiad bod ei ffilm wedi cael ei dewis fel y cais buddugol dywedodd Tomos: “Rwy’n hapus iawn i fod wedi gallu gweithio ar brosiect mor gyffrous. Roedd gen i actorion anhygoel i weithio gyda nhw a roddodd gymaint o effaith i’r ffilm. Dwi wrth fy modd gyda’r canlyniad!”

Mae ffilm drawiadol Tomos i’w gweld ar YouTube.

Nid dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol dderbyn clod am eu gwaith; mae myfyrwyr wedi ennill y gystadleuaeth hon sawl gwaith ers 2012 gyda’r cyn-fyfyriwr Naomi Charnley yn enillydd y llynedd.

Dywedodd tiwtor y cwrs, Denys Bassett-Jones: “Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant Tomos yn y gystadleuaeth hon. Fel cwrs rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i roi profiadau byw byr i ddysgwyr ac rwy’n falch ein bod yn gallu cefnogi ymgyrch diogelwch mor bwysig!”

Darganfod mwy am gwrs Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol y Coleg.

Shopping cart close