Pembrokeshire College Logo
Portrait of Gwenna Maycock

Y prif resymau dros astudio Lefel-A yn y Coleg

Pam astudio Lefel‑A?

Mae dewis astudio eich Lefel-A yng Ngholeg Sir Benfro yn rhoi’r cyfle i chi ganolbwyntio ar gyfres o bynciau sydd o ddiddordeb mawr i chi yn ogystal ag adeiladu sylfeini cryf i symud ymlaen yn llwyddiannus i brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth. Rydym yn cynnig ystod o bynciau Lefel-A o ansawdd uchel a gweithgareddau cyfoethogi a fydd yn eich paratoi’n llawn ar gyfer eich camau nesaf.

Fel dysgwr Lefel-A yng Ngholeg Sir Benfro, byddwch yn derbyn popeth y byddech yn ei ddisgwyl o’ch astudiaethau academaidd a mwy! Mae gennym dîm Lefel-A ymroddedig a fydd yn eich cefnogi yn eich gweithgareddau academaidd ac yn darparu gofal bugeiliol yn ogystal â chyfleoedd traws-golegol ychwanegol a gwasanaethau cymorth y byddwch yn gallu cymryd rhan ynddynt a manteisio arnynt.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n dysgwyr Lefel-A gwblhau eu prosiectau Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (ASBW) a/neu eu tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Darganfod mwy...

Play Video

Cyflwyniad Noson Agored

Dewiswch Eich Llwybr

Mae dysgwyr Lefel‑A yn dilyn un o'r llwybrau canlynol ym mlwyddyn un

Dewiswch 3 phwnc Lefel AS a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (ASBW)

Dewiswch 4 pwnc Lefel AS gyda’r opsiwn o gwblhau Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) hefyd – ar gyfer dysgwyr SEREN gyda 6 gradd A* TGAU yn unig (yn seiliedig ar feini prawf cenedlaethol SEREN)

Tîm Lefel-A

Mae’r tîm Lefel-A yn cynnwys tîm rheoli cyfadran ac anogwyr cymorth. Rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod eich pontio i’r Coleg yn un esmwyth ac rydym i gyd yma i’ch cefnogi chi, yn ogystal â’ch darlithwyr pwnc, drwy gydol eich rhaglen Lefel-A.

Beth mae ein dysgwyr yn ei ddweud!

Tomos Padel
Dysgwr A2, Myfyriwr-lywodraethwr
5/5

“Mae’r cymorth bugeiliol yn un o’r pethau gorau yn y coleg. Mae’r Anogwyr Bugeiliol yn hyfryd, maen nhw’n darparu wyneb cyfeillgar, a gallwch chi rannu unrhyw beth rydych chi ei eisiau gyda nhw. Os oes gennych chi broblem bydd yr Anogwyr Bugeiliol yn bendant yn dod o hyd i ateb i ti”

Bradley Cole
Dysgwr A2, Myfyriwr-lywodraethwr
5/5

“Mae’r holl athrawon yn angerddol iawn am eu pynciau a wir wedi buddsoddi ynddon ni. Maen nhw wir yn rhoi’r cymorth gorau posibl i ni. Maen nhw bob amser yno i’n helpu ni.

“Mae cymaint o ffyrdd i leisio’ch barn yn y Coleg. Mae gan Gabinet y Dysgwyr lawer o Lysgenhadon myfyrwyr wrth law i helpu. Mae gyda ni bwyllgorau a chlybiau, ac yn rhoi adborth yn uniongyrchol i’r rheolwyr. Mae gyda nhw bob amser ddiddordeb mewn gwrando ar ein barn.”

Gwenna Maycock
Dysgwr A2, Llysgennad y Gymraeg
5/5

“Mae gan goleg Sir Benfro ystod eang o weithgareddau ehangach y gall dysgwyr gymryd rhan ynddyn nhw. Maen nhw hefyd yn gweithio’n galed gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wella cymorth i ddysgwyr Cymraeg ac i greu cyfleoedd iddyn nhw ddathlu ac archwilio ein diwylliant.”

Cwestiynau Cyffredin

Mae dysgwyr Lefel‑A yn y coleg ar gyfer gwersi wedi’u hamserlennu am bedwar diwrnod yr wythnos. Mae un diwrnod yr wythnos yn ddiwrnod astudio. Gallwch ddewis dod i’r coleg i ddefnyddio’r gofodau a’r cyfleusterau astudio neu ddewis astudio gartref ar eich diwrnod astudio. Bydd ein darlithwyr pwnc a’n Hanogwr Dysgu yn rhoi arweiniad i chi ar y ffordd orau o ddefnyddio’r amser astudio hwn i wneud cynnydd yn eich pynciau Lefel‑A.

Mae’r holl wersi Lefel‑A yn cael eu cynnal ar y prif gampws a dyma lle mae ein hystafelloedd dosbarth, labordai gwyddoniaeth, stiwdio ddrama ac ystafelloedd dosbarth TG wedi’u lleoli. Fodd bynnag, mewn rhai pynciau fel Astudiaethau’r Cyfryngau, Cerddoriaeth neu Ffotograffiaeth byddwch yn cael gwersi yn y Ganolfan Dechnoleg ac Arloesi (TIC) ar y prif gampws i gael mynediad i’n hystafelloedd Mac, ein stiwdio ffotograffiaeth a’n hystafell dywyll.

Mae pob pwnc lefel AS wedi’i amserlennu am bum awr o amser dosbarth yr wythnos ac mae Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru wedi’i amserlennu am dair awr a hanner yr wythnos. Bydd cyfanswm yr oriau a amserlennwyd bob wythnos yn dibynnu ar ba lwybr y byddwch yn penderfynu ei ddilyn (Llwybr 1 – 3 phwnc ynghyd ag ASBW neu Lwybr 2 – 4 pwnc ynghyd â EPQ). Yn ogystal ag astudio academaidd, byddwch hefyd yn cael sesiwn tiwtorial grŵp awr gyda’ch Anogwr Bugeiliol a thiwtorial 1:1 o leiaf bob tair wythnos.

Rydym yn cynnig cyfle i’n dysgwyr Lefel-A gwblhau eu prosiectau Bagloriaeth Cymru a/neu eu tiwtorialau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn ym mloc opsiwn 1 ar y grid.

Mae Coleg Sir Benfro wedi ymrwymo i ddatblygu ei ddarpariaeth a’i ethos dwyieithog. Rydym yn annog ein holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Mae’r rhaglen Lefel‑A yn gwrs dwy flynedd. Byddwch yn sefyll arholiadau lefel AS ar ddiwedd blwyddyn un sy’n darparu 40% o’r cymhwyster Lefel-A cyffredinol. Ar ddiwedd blwyddyn dau, byddwch yn sefyll eich arholiadau lefel A2 sy’n darparu’r 60% sy’n weddill o’r cymhwyster Lefel‑A cyffredinol.

Yn y rhaglen Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (ASBW), rydych yn cwblhau dau brosiect ym mlwyddyn un (Cymunedau Byd-eang a Chyrchfannau’r Dyfodol) ac un prosiect ym mlwyddyn dau (Prosiect Unigol). Mae gan y cymhwyster hwn yr un gwerth â phwnc Lefel‑A.

Edrychwch ar ein a href=”https://www.pembrokeshire.ac.uk/y-coleg/calendr-y-coleg/?lang=cy” target=”_blank” rel=”noopener”>Calendr Coleg academaidd am ddyddiadau tymhorau. Sylwch y gallai dyddiadau’r flwyddyn nesaf newid ychydig, ond byddwn yn ymdrechu i gadw’r wefan yn gyfredol.

I wneud cais i’r Coleg bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein drwy wefan y Coleg. Dewch o hyd i gwrs Lefel-A y mae gennych ddiddordeb ynddo a chliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais Nawr’.

Dim ond un cais sydd angen i chi ei gyflwyno ac rydych chi’n rhestru’r pynciau Lefel-A rydych chi’n gwneud cais amdanynt yn y cais.

Bydd angen i chi greu cyfrif a fydd yn caniatáu i chi olrhain eich cais.

Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol ac nid un ysgol.

Darperir cludiant am ddim i ddysgwyr addysg bellach llawn-amser o dan 19 oed ar 1af Medi yn y flwyddyn mynediad. Os oes gennych Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi gerdded i’r Coleg, neu gael mynediad at gludiant prif ffrwd, cyfeiriwch at ein Canllawiau Cludiant i Ddysgwyr ag ADY.

Bydd angen i ddysgwyr 19 oed a throsodd gyfrannu at gost cludiant.

Edrychwch ar ein Amserlen Bws os gwelwch yn dda.

Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau, cysylltwch â’n prif dderbynfa (01437 753 000) a byddant yn eich rhoi drwodd i’n hadran Ystadau.

Group photo of students outside
Pembrokeshire College Logo

CredwchFWY. DysgwchFWY. ByddwchFWY.

Pembrokeshire College
Portrait of Tomos Padel

© 2024Coleg Sir Benfro. Cedwir pob hawl