Astudiaethau Busnes

Astudiaethau Busnes
Lefel-A Busnes CBAC
Yn bwriadu ymuno â byd gwaith a diwydiant? Naill ai’n sefydlu eich busnes bach eich hun neu’n gweithio i gwmni rhyngwladol byd-eang, mae llawer o’r meysydd dealltwriaeth allweddol a sgiliau defnyddiol yn cael eu cyflwyno o fewn y cwrs hwn.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Nod y cwrs Lefel-A Astudiaethau Busnes yw annog dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sefydliadau busnes, y marchnadoedd y maent yn eu gwasanaethu a’r broses o ychwanegu gwerth.
Heddiw, ‘busnes mawr’ yw busnes. Er mwyn bod yn llwyddiannus mae angen strategaeth fusnes ar bob sefydliad a fydd yn eu gweld nid yn unig yn tyfu eu cyfran o’r farchnad ond yn gwneud hynny mewn modd proffidiol. Mae hefyd wedi dod yn fwyfwy pwysig bod busnesau’n foesegol wrth ymdrin nid yn unig â’u gweithwyr ond hefyd eu prosesau amgylcheddol.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B a Mathemateg/Rhifedd gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Fel rhan o’r cwrs byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r effaith y mae ffactorau allanol, fel yr economi, materion llywodraethol a chyfreithiol yn ei chael ar fusnesau. Byddwch hefyd yn caffael ystod o sgiliau, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, datrys problemau a’r gallu i werthuso lle bo’n briodol.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Cynllunio ac ariannu busnes – datblygu dealltwriaeth o feysydd swyddogaethol busnes, gan gynnwys marchnata, adnoddau dynol a chynhyrchu a sut maent yn cyfrannu at gystadleurwydd busnes
- Rheoli busnes – datblygu dealltwriaeth o’r mesurau ariannol sydd eu hangen i sefydlu pa mor dda y caiff busnes ei reoli a dylai allu deall y camau y gellir eu cymryd i wella perfformiad ariannol
- Strategaethau ar gyfer llwyddiant – cynnwys astudiaeth o’r strategaethau y gall busnesau eu mabwysiadu ar gyfer llwyddiant a bydd yn canolbwyntio ar fusnesau mwy a allai fod yn masnachu mewn marchnadoedd rhyngwladol
- Yr amgylchedd busnes a rheoli newid – archwilio sut y gall ffactorau allanol effeithio ar fusnesau a’r ymatebion a gânt
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Os ydych yn astudio cymhwyster Seiliedig ar Waith:
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
Pob cwrs arall:
- Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl yn feirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, cefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Gradd D
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd E neu F
Ar gyfer Saesneg:
- Cwrs uwchsgilio blwyddyn neu ddwy cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Mathemateg:
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd G neu is
- Cwrs uwchsgilio dwy flynedd cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Dadansoddwr Actiwaraidd, Cyflafareddwr, Cynghorydd Busnes, Dadansoddwr Busnes, Rheolwr Datblygu Busnes, Cyfrifydd Rheolaeth Siartredig, Banciwr Buddsoddi Corfforaethol, Dadansoddwr Data, Gwyddonydd Data, Cyfrifydd Fforensig, Tanysgrifennwr Yswiriant, Ymgynghorydd Rheoli, Rheolwr Prosiect, Rheolwr Risg, Brocer Stoc, Rheolwr Cadwyn Gyflenwi.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Lefel: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 05/12/2024