Astudiaethau’r Cyfryngau

Astudiaethau’r Cyfryngau
Lefel-A CBAC Astudiaethau'r Cyfryngau
Ydych chi wedi sylwi bod negeseuon cyfryngau yn dod yn rhan gynyddol o’n bywydau bob dydd, boed yn gyrchu fideos ar eich ffôn clyfar, gwylio hysbysebion teledu, gwrando ar y radio, edrych ar bosteri neu wrando ar gerddoriaeth?
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd dewis y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddol, creadigol a gwerthusol sy’n ymwneud â phob math o gynhyrchu cyfryngol o safbwynt cynulleidfa a safbwynt sefydliadol.
Mae bod yn ‘llythrennog yn y cyfryngau’ yn dod yn fwyfwy pwysig yn y gymdeithas sy’n datblygu’n gyflym heddiw. Drwy gydol eich amser ar y cwrs hwn byddwch yn cydnabod y dylanwad y mae’r cyfryngau yn ei gael arnom, yn ogystal â’r tueddiadau sydd ar ddod yn niwylliant heddiw o bob rhan o’r byd.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
- Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae Lefel-A Astudiaethau’r Cyfryngau yn darparu ystod gyffrous o fodiwlau sy’n gofyn cwestiynau beirniadol am y diwydiant cyfryngau: Beth maen nhw’n ceisio ei gyfathrebu? Pa mor amlwg yw eu neges? A yw’r cyfryngau yn adlewyrchu realiti neu a yw’n ceisio rheoli’r hyn rydych chi’n ei feddwl?
Byddwch yn dysgu am hanes, datblygiad, defnydd cyfoes a pherthnasedd cylchgronau, papurau newydd, y rhyngrwyd, radio a hysbysebu.
Ein nod yw eich galluogi i ffurfio eich barn bersonol eich hun ar ystod eang o bynciau, wrth ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o: gyfathrebu, diwylliant, gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth.
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Ymchwilio i’r cyfryngau
- Creu cynhyrchiad cyfryngol
- Cyfryngau yn yr oes fyd-eang
- Creu cynhyrchiad traws-gyfrwng
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Arholiad ysgrifenedig
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Marchnatwr Digidol, Prynwr Cyfryngau, Cynlluniwr Cyfryngau, Ymchwilydd Cyfryngau, Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Rhedwr – Darlledu/Ffilm/Fideo, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, Cynhyrchydd Teledu/Ffilm/Fideo, Rheolwr Cynnwys Gwe.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Lefel: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf