Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Colegau’n Creu Cynghrair Strategol De-orllewin Cymru

Colleges Create South West Wales Strategic Alliance

Mae Coleg Sir Benfro, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhannu nod cyffredin gyda dysgwyr wrth galon eu sefydliadau. Maent yn Golegau modern gyda ffocws clir ar wella profiad dysgwyr a datblygu ymarfer addysgu a dysgu. Mae cymorth a gofal yn nodweddion cryf ym mhob sefydliad ac mae’r athroniaeth o arweinyddiaeth agored, dryloyw yn nodwedd gyffredin. Wrth wraidd eu cynlluniau strategol mae eu hymroddiad i adeiladu Cymru fwy ffyniannus, iach a gwydn.

Mae Coleg Sir Benfro a Choleg Sir Gâr ill dau yn gweld gwerth mewn alinio eu cenadaethau craidd er mwyn cynnig gwerth ychwanegol sylweddol drwy gydweithio’n agosach. Lluniwyd ymrwymiad o’r fath ar ddealltwriaeth nad yw’n herio annibyniaeth y Colegau fel sefydliadau ymreolaethol ond yn hytrach ei fod yn atgyfnerthu eu ‘cenhadaeth’ graidd fel conglfaen sylfaenol ar gyfer meithrin capasiti ar draws De-orllewin Cymru.

Yn unol â hyn, mae cyrff llywodraethu Coleg Sir Benfro a Choleg Sir Gâr wedi penderfynu sefydlu Cytundeb Cydweithredu rhwng y ddau goleg sy’n rhoi fframwaith ar gyfer cydweithio. Mae’n nodi sut y bydd y Colegau’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu’r weledigaeth strategol ar gyfer creu cynghrair colegau newydd, sy’n cyflwyno newidiadau trawsnewidiol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a sefydlu llwyfan cryf ar gyfer datblygiadau cydweithredol posibl yn y dyfodol. Bydd yr effaith gyfunol a’r dylanwad y byddai cynghrair o’r fath yn eu cael yn sicrhau budd sylweddol, strategol ac yn sicrhau’r effaith fwyaf posibl i Dde-orllewin Cymru a thu hwnt.

Meddai Dr Andrew Cornish, Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ‘Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’n ffurfiol ein partneriaeth strategol gyda Choleg Sir Benfro. Rydym eisoes yn gweithio’n llwyddiannus mewn nifer o feysydd gyda’n cyd-weithwyr yn Sir Benfro, ond bydd y gynghrair hon yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar ddatblygiadau pwysig ac adfywio yn y rhanbarth a chael effaith wirioneddol ar gymunedau ac economi De-orllewin Cymru.’

Croesawyd y gynghrair hefyd gan Dr Barry Walters, Prif Weithredwr a Phennaeth Coleg Sir Benfro, a nododd ‘Mae’r bartneriaeth strategol hon gyda Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn rhoi cyfle cyffrous i ddatblygu ymhellach y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y cyd rhwng y colegau er budd ein cymunedau o fyfyrwyr, ein cyflogwyr a’r rhanbarth cyfan. Bydd y bartneriaeth yn ein galluogi i fodloni anghenion ac ymateb yn well i’r cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno yn y sectorau Iechyd, Adeiladu ac Ynni yn y De-orllewin’.

Bydd y Colegau nawr yn cydweithio’n agos i wireddu potensial aruthrol y gynghrair.

Shopping cart close