Gwaith Barbwr i Ddechreuwyr
Gwaith Barbwr i Ddechreuwyr
Diploma NVQ Lefel 2 Gwaith Barbwr 6008-04
Byddwch yn barod i gymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol llwyddiannus mewn gwaith barbwr trwy ddatblygu ystod o sgiliau a thechnegau sydd eu hangen i ragori gyda’r cymhwyster hwn.
SKU: 1207F7311
MEYSYDD: Trin Gwalt a Harddwch
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy’n Oedolion
ID: 49609
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£750.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
I’r rhai sy’n dymuno gweithio a dilyn gyrfa mewn gwaith barbwr, mae’r cwrs hwn yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddod yn gymwys yn alwedigaethol fel barbwr iau. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol mewn trin gwallt i ddechrau’r cwrs hwn a bydd dysgwyr yn cyflawni Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr fynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos felly mae angen ymrwymiad, presenoldeb da a sgiliau trefnu cryf. Rhoddir pwyslais ar asesiadau ymarferol graddedig, terfynau amser aseiniadau a phrofion allanol.
Mae’n ofynnol i chi fynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos, felly mae angen ymrwymiad, presenoldeb da a sgiliau trefnu cryf. Rhoddir pwyslais ar asesiadau ymarferol graddedig, terfynau amser aseiniadau a phrofion allanol.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiwn fasnachol gyda’r nos unwaith y bydd sgiliau wedi’u datblygu ac mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ychwanegol o fewn yr wythnos ar gael yn salon y Coleg i wneud y mwyaf o arfer masnachol dan arweiniad y tîm addysgu sgiliau barbwr.
Seiliedig ar waith – os ydych chi’n gweithio mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd, mae’r cymhwyster hwn hefyd ar gael trwy lwybrau dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaeth.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
- Os o dan 19, Lefel 1 perthnasol neu ddau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
- Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i:
- Siampŵ, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
- Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid
- Torri a steilio gwallt dynion
- Torri gwallt yr wyneb
- Creu patrymau mewn gwallt
- Lliwio gwallt dynion
- Ddatblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
Bydd disgwyl i chi hefyd wneud profiad gwaith mewn salon.
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ar-lein
Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- Gwisg trin gwallt - £32/£58
- Cit barbro - £403
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/05/2024