Polisi Ffioedd
Pwrpas y Polisi Ffioedd yw amlinellu’r dull o godi ffioedd dysgu a ffioedd cysylltiedig ar fyfyrwyr a defnyddwyr gwasanaethau’r Coleg ar gyfer y Flwyddyn Academaidd. Isod mae pwyntiau allweddol i weld y ddogfen lawn – cliciwch yma.
Cysylltwch â’n Tîm Cyllid:
- Dewch o hyd i ni lan llofft yn Yr Hwb
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:30 i 09:30 a 12:00 i 13:30
- s.finance@pembrokeshire.ac.uk
Trosolwg
Yn unol â Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (y Ddeddf), mae gan Goleg Sir Benfro ddyletswydd drwy Lywodraeth Cymru (LlC) i sicrhau:
- Darparu cyfleusterau priodol ar gyfer: Addysg sy’n addas i ofynion personau sydd dros oedran gorfodol ond heb gyrraedd 19 oed;
- Darparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer: Addysg sy’n addas i ofynion personau sydd wedi cyrraedd 19 oed a hyfforddiant cysylltiedig ac amser hamdden wedi’i drefnu fel y’i diffinnir yn y Ddeddf.
Wrth wneud hynny, bydd Coleg Sir Benfro yn ceisio darparu rhestr o ffioedd a chonsesiynau a fydd yn annog cyfranogiad a chynhwysiant mewn addysg a hyfforddiant, tra’n sicrhau bod y Coleg yn diogelu ei asedau, yn gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus, ac yn sicrhau sicrwydd ariannol.
Bydd ffioedd yn cael eu hadolygu’n flynyddol ac maent ar gael ar wefan y Coleg.
Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i ddarpar fyfyriwr sydd â dyled heb ei thalu i’r Coleg am ba bynnag reswm.
Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n cofrestru ar gwrs Coleg ac sy’n methu â thalu wedi hynny yn destun camau disgyblu fel y nodir ym mholisi disgyblu’r Coleg.
Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i drosglwyddo unrhyw ddyled orddyledus i asiantaeth casglu dyledion trydydd parti.
Ffioedd Dysgu Addysg Bellach a Ffioedd Cysylltiedig Eraill (Myfyrwyr y DU a'r UE)
Fel rhan o Ganllawiau’r Llywodraeth o ganlyniad i bandemig COVID 19, bydd Coleg Sir Benfro yn defnyddio dull dysgu cyfunol ar gyfer cyflwyno addysg drwy gyfuno dysgu o bell ynghyd â sesiynau ystafell ddosbarth, gweithdai neu ddysgu yn y gweithle traddodiadol.
Dysgu o bell yw pan nad yw’r myfyriwr a’r addysgwr (Coleg Sir Benfro), neu’r ffynhonnell wybodaeth, yn gorfforol bresennol mewn amgylchedd ystafell ddosbarth traddodiadol. Mae gwybodaeth yn cael ei chyfleu trwy dechnoleg, fel byrddau trafod, fideo-gynadledda ac asesiadau ar-lein. Cyfrifir unrhyw ffioedd a godir gan Goleg Sir Benfro ar ddull dysgu cyfunol ac felly maent yn daladwy yn unol â’r Polisi Ffioedd hwn. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyflwyno cyrsiau unigol drwy’r broses derbyn/cofrestru.
Bydd pob cwrs Addysg Bellach llawn amser yn cael ei ddarparu am ddim i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr yr UE. Ni fydd ffioedd cofrestru a/neu ffioedd arholiadau cysylltiedig yn cael eu codi ar fyfyrwyr am eu cynnig cyntaf. Fodd bynnag, codir ffioedd perthnasol am ailsefyll (gweler Adran 5 y Polisi Ffioedd).
Ni chodir ffioedd dysgu ar ddysgwyr o dan 19 oed ar 31 Awst, sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser sy’n cael eu cefnogi gan gyllid a ddarperir gan DfES, Llywodraeth Cymru. Codir ffioedd cofrestru neu ffioedd arholiadau cysylltiedig yn unig. Codir ffioedd perthnasol hefyd am ailsefyll arholiadau (gweler Adran 4 y Polisi Ffioedd).
Codir ffioedd llawn ar ddysgwyr Addysg Uwch (AU) sy’n dymuno dilyn cwrs Addysg Bellach rhan-amser ychwanegol ochr yn ochr â’u hastudiaethau AU.
Lle mae hyd y cwrs yn fwy na blwyddyn, yna bydd ffioedd yn berthnasol ym mhob blwyddyn academaidd.
Bydd y Coleg yn derbyn taliadau rhandaliad ar gyfer cyrsiau lle mae’r ffioedd yn fwy na £400, ar yr amod bod cynllun talu wedi’i gytuno neu cyn cofrestru cwrs.
Mewn rhai achosion, bydd y Coleg yn darparu cyrsiau rhan-amser yn rhad ac am ddim neu, am bris gostyngol, i annog y cyfranogiad mwyaf posibl.
Codir ffi gofrestru flynyddol o £30 ar bob myfyriwr Addysg Bellach llawn amser. Mae hyn er mwyn cofrestru’r myfyriwr fel dysgwr yng Ngholeg Sir Benfro. Mae’r ffi hon yn cynnwys lwfans argraffu o £9 am y flwyddyn academaidd, ac yn rhoi’r hawl i’r myfyriwr gael mynediad i gampws y Coleg, mynediad AM DDIM i holl becynnau Microsoft, mynediad i’r rhyngrwyd a chyfrif e-bost personol yn ogystal â defnyddio adnoddau dysgu’r Coleg a’r ffreutur.
Deunyddiau a nwyddau traul: Codir ffi gweithdy ar gyrsiau lle mae angen deunyddiau a nwyddau traul i gynorthwyo dysgu myfyrwyr. Mae’r gost yn dibynnu ar y cwrs. Fodd bynnag, ni chodir mwy na £145 y flwyddyn academaidd ar fyfyrwyr.
Cyrsiau Masnachol ac Adennill Costau Llawn
- Hyfforddiant i ddysgwyr cyflogedig dros 19 oed, a gomisiynir gan gyflogwr ac a ddarperir dros gyfnod o 5 diwrnod neu lai, sydd naill ai:
- Mae angen i gyflogwyr ddarparu tystiolaeth i sicrhau bod eu gweithlu (lle maent yn 19 oed a throsodd) yn cydymffurfio â gofynion statudol, neu mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unigolion ymrwymo i allu gwneud eu gwaith.
Addysg Uwch (AU)
Bydd ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau AU Llawn a Rhan-amser yn cael eu pennu mewn cytundeb â’r Brifysgol sy’n dilysu’r rhaglenni ar gyfer myfyrwyr y DU a myfyrwyr yr UE.
Ymgeiswyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Ymgeiswyr Dysgu Seiliedig ar Waith
- Bydd myfyrwyr a noddir gan Goleg Sir Benfro yn cael eu cofrestru a byddan nhw’n cael hyfforddiant, cofrestriad ac arholiadau am ddim.
- Tystysgrif Dechnegol – Pan fydd y Coleg yn cyflwyno hyfforddiant Tystysgrif Dechnegol i fyfyrwyr a noddir gan ddarparwr arall, rhaid i’r darparwr gadarnhau sail y cyllid. Os yw’r darparwr yn cytuno y dylai’r Coleg hawlio ar ffurflen ariannu’r Coleg, yna rhaid i’r darparwr sicrhau nad yw’n mewnbynnu data’r myfyriwr ar ei gofnod ariannu ei hun.
Darpariaeth Masnachol Ar-lein
Mae ffioedd ar gyfer darpariaeth masnachol ar-lein yn cael eu hadolygu’n flynyddol ac yn cael eu gosod ar sail adennill costau llawn.
Cyhoeddir y ffioedd ar wefan LearnOnline Coleg Sir Benfro.
Gellir talu ffioedd am ddarpariaeth masnachol ar-lein adeg cofrestru trwy ddarparwr taliadau ar-lein y Coleg.
Rhoddir mynediad i ddeunyddiau dysgu pan fydd taliad wedi’i gadarnhau.
Efallai y bydd opsiynau talu rhandaliad ar gael ar rai cyrsiau. Byddai cynllun talu yn cael ei gwblhau ar y cyd â’r Adran Gyllid. Bydd methu â chadw at gynllun talu y cytunwyd arno yn arwain at dynnu mynediad ar-lein yn ôl.
Unwaith y bydd y pryniant wedi’i wneud mae cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. Gallwch ddod â’r cytundeb hwn i ben drwy anfon e-bost at online@pembrokeshire.ac.uk o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad cychwyn a derbyn ad-daliad oni bai bod y disgybl neu’r sefydliad sy’n prynu yn cyrchu’r wefan ac yn defnyddio’r gwasanaethau yn ystod y cyfnod ailfeddwl.
Ad-daliadau a Chanslo
Cyrsiau
Addysg Bellach (AB)
- Y Coleg yn canslo cwrs – Ad-daliad llawn
- Myfyriwr sydd wedi archebu ymlaen llaw yn canslo gan roi 14 diwrnod neu fwy o hysbysiad – Ad-daliad llawn
- Myfyriwr sydd wedi archebu ymlaen llaw yn canslo gan roi llai na 14 diwrnod o hysbysiad – Ad-daliad, £25 llai ffi weinyddol
- Ar gyfer cyrsiau byr (8 sesiwn neu lai) myfyrwyr sy’n tynnu’n ôl ar ôl y sesiwn gyntaf – Dim ad-daliad
- Myfyriwr sy’n mynychu hyd at ac yn cynnwys y bedwaredd sesiwn yn unig (cwrs mwy na phedair sesiwn) – nodyn credyd, £25 llai ffi cofrestru
- Myfyriwr sy’n tynnu’n ôl ar ôl y pedair sesiwn gyntaf (cwrs yn para mwy na phedair sesiwn) – Dim ad-daliad
Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau.
Mae’r uchod yn rhagdybio bod ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn.
Bydd y nodyn ad-daliad AB hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr NVQ; fodd bynnag, byddant hefyd yn atebol am ffioedd cofrestru os yw’r Coleg eisoes wedi talu ffioedd cofrestru.
Darpariaeth Masnachol Ar-lein
- Cwrs (Ar-lein a LiveSchool) wedi ei ganslo gan y Coleg – Ad-daliad llawn
- Cwrs Ar-lein a LiveSchool wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) o fewn cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod, ac nid oes mynediad wedi’i wneud i’r cwrs na’r cyfrif ar-lein, rhaid dychwelyd gwerslyfrau cwrs – Ad-daliad llawn
- Cwrs ar-lein wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo ddechrau, ac wedi cyrchu’r cwrs neu’r cyfrif ar-lein – ad-daliad o 75%
- Cwrs ar-lein wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) 15 diwrnod neu fwy ar ôl dechrau – Dim ad-daliad
- LiveSchool (Cwrs Ar-lein Byw) wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) 14 diwrnod cyn y dyddiad dechrau – ad-daliad o 75%
- LiveSchool (Cwrs Ar-lein Byw) wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) lai na 14 diwrnod cyn y dyddiad dechrau – Dim ad-daliad
- Elfen Gweithdy Ymarferol Dwys o Bwndel Lefel-A wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad prynu) o fewn 30 diwrnod i archebu a mwy na 90 diwrnod cyn y gweithdy – Ad-daliad llawn
- Elfen Gweithdy Ymarferol Dwys o Bwndel Lefel-A wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) 90 diwrnod cyn y dyddiad dechrau – ad-daliad o 75%, llai ffi weinyddol o £25
- Elfen Gweithdy Ymarferol Dwys o Bwndel Lefel-A wedi’i ganslo gan fyfyriwr (neu sefydliad sy’n prynu) lai na 90 diwrnod cyn y dyddiad dechrau – Dim ad-daliad
Addysg Uwch Llawn Amser (AU)
- Y Coleg yn canslo cwrs neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl cyn dechrau’r cwrs – Dim ffioedd yn ddyledus
- Myfyriwr sy’n bresennol ar ddiwrnod cyntaf y tymor cyntaf ond sy’n tynnu’n ôl cyn diwedd y tymor cyntaf – 25% o’r ffioedd cwrs sy’n ddyledus (trwy fenthyciad myfyriwr lle bo’n berthnasol)
- Myfyriwr sy’n bresennol ar ddiwrnod cyntaf tymor dau ond sy’n tynnu’n ôl cyn diwedd yr ail dymor – 50% o’r ffioedd cwrs sy’n ddyledus (trwy fenthyciad myfyriwr lle bo’n berthnasol)
- Myfyriwr sy’n bresennol ar ddiwrnod cyntaf tymor tri ond sy’n tynnu’n ôl cyn diwedd y trydydd tymor – 100% o’r ffioedd cwrs sy’n ddyledus (trwy fenthyciad myfyriwr lle bo’n berthnasol)
Addysg Uwch rhan-amser (AU)
- Y Coleg yn canslo cwrs neu fyfyriwr yn tynnu’n ôl cyn dechrau’r cwrs – Dim ffioedd yn ddyledus
- Myfyriwr sy’n bresennol ar ddiwrnod cyntaf tymor un ond sy’n tynnu’n ôl cyn 31 Rhagfyr – 25% o ffioedd y cwrs yn ddyledus
- Myfyriwr sy’n tynnu’n ôl rhwng 01 Ionawr a 24 Ebrill – 50% o ffioedd y cwrs yn ddyledus
- Myfyriwr sy’n tynnu’n ôl ar neu ar ôl 25 Ebrill – 100% o ffioedd y cwrs yn ddyledus
Gweler y ddogfen atodedig am fanylion llawn Polisi Ffioedd y Coleg. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’n tîm cyllid myfyrwyr drwy e-bost.