Saesneg Iaith – TGAU
Saesneg Iaith – TGAU
TGAU CBAC mewn Saesneg Iaith
Mae digon o resymau dros astudio TGAU Bioleg; boed hynny er mwyn cael gwell cymwysterau ar gyfer addysg uwch, creu mwy o lwybrau ar gyfer gyrfa, neu’n syml ar gyfer hunan-wella – mae sefyll TGAU fel oedolyn yn ffordd wych o ennill sgiliau newydd a chryfhau eich CV.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£200.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae TGAU Saesneg Iaith yn ofyniad allweddol ar gyfer llawer o swyddi ac mae llwyddo yn y cymhwyster hwn yn dangos dealltwriaeth o gyfansoddiad testunau a ffynonellau yn ogystal â rhoi sgiliau ysgrifennu a darllen i chi.
Dim ots os wnaethoch chi sefyll eich cymhwyster TGAU Saesneg cyfwerth 5 mlynedd yn ôl neu 40 mlynedd yn ôl, mae tiwtoriaid y Coleg yma i helpu.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un noson yr wythnos, am 33 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Llafaredd – Cyflwyniad unigol wedi’i ymchwilio ac ymateb a rhyngweithio
- Darllen ac Ysgrifennu – Disgrifiad, adrodd ac arddangos
- Darllen ac Ysgrifennu – Dadl, darbwyllo a hyfforddi
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ysgrifenedig
Mynediad I Lefel-A Saesneg, i helpu i fodloni gofynion rhai cyrsiau lefel gradd.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Dyddiad y Cwrs: | Dim dyddiadau ar gael |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 30/04/2024