Trin Gwallt
Trin Gwallt
City & Guilds VTCT Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n gobeithio dod yn steilwyr cymwys. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i dorri, pyrmio a lliwio gwallt. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau derbynfa salon, yn dysgu sut i roi ymgynghoriadau â chleientiaid a sut i hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion salon.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn addas ar gyfer y rhai sy’n gobeithio gweithio fel steilydd.
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn byddwch yn astudio pob agwedd ar drin gwallt ac yn adeiladu eich gwybodaeth a’ch sgiliau technegol er mwyn dod yn steilydd gwallt proffesiynol.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiynau masnachol gyda’r nos y bydd disgwyl i chi eu mynychu er mwyn cael profiad masnachol. Felly, bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.
Sylwch ni chaniateir i ddysgwyr wisgo tlwsdyllau’r wyneb ar y cwrs hwn.
Canllaw i Gyrsiau Harddwch
- There is normally no direct entry to this course, you would need to progress from the successful completion of previous level in this subject area or similar
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
- Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
Mae’r unedau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys:
- Rhoi cyngor ac ymgynghori â chleientiaid
- Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen pen
- Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
- Steilio a gorffeniad gwallt
- Gosod a gwisgo gwallt
- Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Lliwio ac ysgafnhau gwallt
- Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Pyrmio a niwtraleiddio gwallt
Bydd gofyn i chi hefyd wella eich sgiliau siarad Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol ac allanol.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Portfolio of evidence
- Online examination
Mae gyrfaoedd y dyfodol yn cynnwys triniwr gwallt/steilydd cymwys gyda’r nod o symud i rôl fwy technegol neu oruchwyliol o fewn y diwydiant neu symud ymlaen i Lefel 3 Trin Gwallt.
- Text books - you will be told about any specific items before you start the course, most text books are available to loan from the college library or online libraries
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Hairdressing uniform - £32/£58
- Barbering kit - £183
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- You will need to pay a £55 hairdressing workshop fee each year before you start the Level 2 course
- You can rent a locker for £10 per year this will be refunded if the locker remains undamaged and keys are returned
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/06/2023