Cyfrifo
Diploma Lefel 3 Uwch AAT mewn Cyfrifeg
Meistroli disgyblaethau cyfrifyddu mwy cymhleth gan gynnwys prosesau ariannol, cadw cyfrifon uwch, cyfrifon terfynol ac arferion moesegol ar gyfer cyfrifwyr.
Mae’n ofynnol i rai dan 19 oed dalu ffioedd cofrestru ac arholiadau yn unig.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£850.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs hwn gan Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn paratoi dysgwyr ar gyfer yr arholiadau a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n uchel eu parch gan arferion cyfrifeg diwydiant a phroffesiynol, gan arwain at gyfleoedd cyflogaeth rhagorol i fyfyrwyr llwyddiannus.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn bydd angen i ddysgwyr gofrestru gydag AAT i ddod yn aelod (mae ffioedd mynediad ac aelodaeth blynyddol yn daladwy).
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o raglen ddysgu gyfunol, trwy gyfuniad o ddysgu hunan-astudio mewnol (wyneb yn wyneb) ac ar-lein.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 34 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi. Mae angen amser ychwanegol ar gyfer hunan-astudio ar-lein.
- Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:
- Paratoi cyfrifon terfynol ar gyfer partneriaethau ac unig fasnachwyr
- Darparu gwybodaeth am gostau a refeniw
- Paratoi a chwblhau ffurflenni TAW
- Ymwybyddiaeth busnes
- Moeseg broffesiynol mewn cyfrifeg a chyllid
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Arholiad ar-lein
Mae cwblhau’r arholiadau AAT yn llwyddiannus nid yn unig yn arwain at gymhwyster y mae galw mawr amdano ond mae hefyd yn llwybr at ardystiadau proffesiynol ychwanegol. Y cam nesaf yw Diploma Proffesiynol Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Mae ffioedd arholiad ar gyfer y cymhwyster hwn - cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Mae ffioedd cofrestru/tanysgrifio ar gyfer y cymhwyster hwn - cliciwch yma am fwy o wybodaeth
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 30/04/2024