Cymraeg (Iaith Gyntaf) – TGAU
Cymraeg (Iaith Gyntaf) – TGAU
TGAU CBAC mewn Cymraeg Iaith
Mae TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf) yn gymhwyster sy’n annog ymgeiswyr i ddatblygu eu diddordeb a’u brwdfrydedd yn y Gymraeg a’u galluogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog yr 21ain ganrif.
SKU: 1312N7311
MEYSYDD: Dyniaethau ac Ieithoedd, TGAU
DYSGWYR: Archebwch Nawr, Dysgwyr sy’n Oedolion
ID: N/A
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£200.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Nod y cwrs hwn yw datblygu eich hyder i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ysgrifenedig a llafar a datblygu sgiliau hanfodol sy’n diwallu anghenion ymgeiswyr, cyflogwyr ac addysg bellach. Meithrin agweddau cadarnhaol tuag at y Gymraeg, y dreftadaeth lenyddol a’r diwylliant amlgyfrwng cyfoes, a hybu defnydd effeithiol o’r iaith.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un noson yr wythnos, am 33 wythnos, gan ddechrau ym mis Medi.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Mae angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
Mae’r TGAU hwn mewn Cymraeg Iaith yn hyrwyddo ymagwedd integredig at lafaredd, darllen ac ysgrifennu fel bod gwaith ysgrifennu a llafaredd yn cael ei ysgogi gan brofiadau darllen.
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Llafaredd – Cyflwyniad unigol wedi’i ymchwilio, ymateb a rhyngweithio
- Darllen ac Ysgrifennu – Disgrifiad, adrodd ac arddangos
- Darllen ac Ysgrifennu – Dadl, darbwyllo a hyfforddi
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Arholiad ysgrifenedig
Mynediad i Lefel-A Cymraeg, i helpu i fodloni gofynion rhai cyrsiau lefel gradd.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Dyddiadau Cyrsiau: | Dim dyddiadau ar gael |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 30/04/2024