Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Gwaith Barbwr

Gwaith Barbwr

Gwaith Barbwr

Diploma NVQ Lefel 2 City & Guilds mewn Gwaith Barbwr (6008-04)

Wedi’i anelu at drinwyr gwallt cymwys sy’n dymuno ehangu eu sgiliau.

 

SKU: 1207F7311
ID: 30822

Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid

£450.00

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae hwn yn gwrs dwys ar gyfer y rhai sydd am ychwanegu gwaith barbwr at eu sgiliau

Cynhelir y cwrs hwn mewn amgylchedd salon masnachol a bydd angen modelau ar fyfyrwyr i gwblhau asesiadau.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un noson yr wythnos, am 19 wythnos, gan ddechrau ym mis Ionawr.
  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'n llwyddiannus neu wedi bod yn astudio Lefel 2 Trin Gwallt
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:

  • Cynghori ac ymgynghori â chleientiaid
  • Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
  • Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
  • Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Torri gwallt wyneb i siâp gan ddefnyddio technegau sylfaenol
  • Sychu a gorffeniad gwallt dynion
  • Creu amlinelliadau a manylion sylfaenol mewn gwallt

Bydd disgwyl hefyd i ddysgwyr wneud profiad gwaith mewn salon.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein

Efallai yr hoffech ystyried un arall o’n cyrsiau rhan-amser.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Gwisg trin gwallt - £32/£58
  • Cit barbro - £183
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/05/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Gwaith Barbwr
You're viewing: Gwaith Barbwr £450.00
Add to cart
Shopping cart close