Celf, Dylunio a’r Cyfryngau
Celf, Dylunio a’r Cyfryngau
Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf, Dylunio a'r Cyfryngau
Wedi’i gynllunio i roi cyfleoedd i ddysgwyr sy’n chwilfrydig ac yn cael eu hysgogi gan gelf a dylunio i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i’r sector creadigol i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud dewisiadau dilyniant gwybodus yn y dyfodol wrth ddatblygu a chymhwyso eu gwybodaeth a chaffael ystod o sgiliau ymarferol, cyfathrebu a datblygiad personol perthnasol.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn celf, dylunio, y cyfryngau neu bwnc cysylltiedig ac sy’n dymuno archwilio ac ymestyn y diddordeb hwn trwy brofiad dysgu trochi llawn amser. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn profi eu creadigrwydd o fewn strwythur a fydd yn darparu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth, wrth wella hunanhyder a datgelu’r galwadau a’r cyfleoedd gyrfa posibl o fewn y sector.
- One GCSE at grade D or above to include English Language/First Language Welsh or Mathematics/Numeracy
- A portfolio/examples of work will be required for this course
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
- Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys unedau integredig, a gyflwynir fel prosiectau, sy’n galluogi dysgwyr i gael profiad ‘ymarferol’ mewn ystod o ddisgyblaethau. Byddwch yn:
- Gweithio’n greadigol ar draws ystod o weithgareddau celf, dylunio a’r cyfryngau
- Archwilio potensial technoleg fodern i gefnogi creadigrwydd
- Defnyddio astudiaeth dan gyfarwyddyd i gefnogi gweithgaredd prosiect
- Annog twf mewn sgiliau personol i allu gweithio’n hyderus mewn grŵp ac yn annibynnol
- Cael arddangosiadau ymarferol a thrafodaethau ac archwilio creadigrwydd gyda mynediad i ddeunyddiau ac offer arbenigol
Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:
- Uned 1 Cyflwyniad i ddeunyddiau, prosesau a sgiliau mewn celf, dylunio a’r cyfryngau
- Uned 2 Cyflwyniad i ymchwil cyd-destunol mewn celf, dylunio a’r cyfryngau
- Uned 3 Cyflwyniad i sgiliau cyfathrebu mewn celf, dylunio a’r cyfryngau
- Uned 4 Datrys problemau creadigol 2D
- Uned 5 Datrys problemau creadigol 3D
- Uned 6 Datrys problemau creadigol ar sail amser
- Uned 7 Prosiect celf, dylunio a’r cyfryngau
Cyflwynir Unedau 1-6 trwy gyfres o aseiniadau a rhaid cyflawni pob uned cyn dechrau uned 7. Bydd yr aseiniad ar gyfer Uned 7 yn penderfynu ar y radd derfynol a ddyfernir (Pasio, Teilyngdod, Rhagoriaeth).
Bydd ffocws ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ynghyd â datblygu eich gwybodaeth am faterion cynaliadwy, dinasyddiaeth, dwyieithrwydd, menter a diwylliant Cymru.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Portfolio of evidence
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i baratoi portffolio o waith ar gyfer symud ymlaen i gwrs Celfyddydau Lefel 2.
- You will need to bring your own device/laptop for this course, click here to find out more
- Art materials - you will be told about any specific items during or before you start the course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- No tuition fee
- We are waiving the Administration Fee for the academic year 2024/25
- There is an annual workshop fee for this course (£20 - £60), payable before you start the course
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Lefel: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023