Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Arlwyo

Arlwyo

Arlwyo

Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno cyflawni safonau uchel o berfformiad mewn sgiliau coginio a patisserie ac ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i lefel oruchwyliol mewn lletygarwch ac arlwyo. Bydd y cwrs hefyd yn gweithio ar adeiladu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer a blaen tŷ i’ch galluogi i symud ymlaen yn y sector deinamig hwn.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych chi wedi gweithio mewn cegin broffesiynol ers peth amser, neu os oes gennych chi gymhwyster Lefel 2. Gall eich gwaith gynnwys goruchwylio eraill neu reoli adnoddau. Rydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ymhellach, efallai i ddod yn gogydd arbenigol neu symud i rôl rheoli.

Gofynion hylendid ac iechyd a diogelwch:

  • Rhaid gorchuddio pob tatŵ gweladwy
  • Rhaid cael gwared ar dlwsdyllau gweladwy i gyd
  • Ni chaniateir gemwaith, ac eithrio modrwy briodas ac un pâr o glustdlysau styds
  • Rhaid brwsio’r gwallt a’i glymu’n ôl

Hospitality Courses Guide

  • Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Egwyddorion goruchwylio diogelwch bwyd ar gyfer arlwyo
  • Sgiliau goruchwylio yn y diwydiant lletygarwch
  • Archwilio gastronomeg
  • Sgiliau a thechnegau uwch wrth gynhyrchu prydau llysiau a llysieuo
  • Sgiliau a thechnegau uwch wrth gynhyrchu prydau cig
  • Sgiliau a thechnegau uwch wrth gynhyrchu dofednod a helgig
  • Sgiliau a thechnegau uwch wrth gynhyrchu prydau pysgod a physgod cregyn
  • Cynhyrchu cacen bisgedi a sbwnjau
  • Cynhyrchu cynhyrchion toes a chytew
  • Cynhyrchu pwdinau oer poeth ac wedi rhewi
  • Cynhyrchu cynhyrchion past
  • Cynhyrchu petit fours
  • Datblygu cynnyrch bwyd

Byddwch hefyd yn ymgymryd â lleoliad gwaith o leiaf un diwrnod yr wythnos mewn sefydliad lletygarwch ac arlwyo addas.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Tystiolaeth gweithle

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Cogydd Iau Sous, Porthor Cegin, Cogydd Pantri, Cynorthwyydd Bwyd a Diod, Prif Gogydd, Sous Chef, Commis Chef, Patisserie Chef, Rheolwr dan Hyfforddiant, Chef de Partie, Demi Chef.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Set cyllyll arlwyo - mae hyn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £90
  • Dillad Arlwyo Lefel 3 - £15/£20
  • Mae’n bosibl y bydd angen prynu dillad ac offer Lletygarwch ac Arlwyo ychwanegol i ategu/newid y rhai presennol
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy lletygarwch o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 3
  • Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 19/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close