Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Celf a Dylunio

Celf a Dylunio

Celf a Dylunio

Llun agos o baentiad gyda'r artist yn y cefndir.

UAL Level 3 Foundation Diploma in Art and Design | UAL Level 4 Consolidating Practice Unit

I ddysgwyr creadigol, brwdfrydig sydd o ddifrif ynglŷn â gyrfa mewn celf neu ddylunio, mae’r cwrs hwn yn dod ag unigolion talentog, o’r un anian ynghyd mewn amgylchedd a gynlluniwyd i hyrwyddo sgiliau a sbarduno syniadau. Anogir dysgwyr sydd â phortffolio cryf ac angerdd gwirioneddol dros eu crefft i wneud cais.

MEYSYDD:
ID: 1446

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar sgiliau presennol dysgwyr, gan eu herio gyda syniadau a phrosiectau newydd sy’n datblygu annibyniaeth feirniadol. Mae’n rhoi’r ddealltwriaeth a’r hyder sydd eu hangen ar ddysgwyr i symud ymlaen i Addysg Uwch neu symud ymlaen i yrfa greadigol.

Mae’r cwrs yn pwysleisio dysgu ymarferol, arbrofol, gan annog myfyrwyr i archwilio, cymryd risgiau, a dysgu trwy greu. Drwy gofleidio canlyniadau annisgwyl a mireinio sgiliau ymarferol, mae dysgwyr yn cael cipolwg ar egwyddorion cyffredin a nodweddion nodedig gwahanol ddisgyblaethau celf a dylunio.

  • Lefel 3 Celf/Dylunio gradd C neu uwch (naill ai lefel A neu gymhwyster galwedigaethol)
  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Bydd angen dod â phortffolio/enghreifftiau o waith ar gyfer y cwrs hwn
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Lefel 3 Celf/Dylunio gradd C neu uwch (naill ai lefel A neu gymhwyster galwedigaethol)
  • Penderfyniad llwyddiannus yn dilyn y bwrdd dilyniant

Unedau i’w hastudio i gynnwys:

  • Cam Archwiliadol – ymchwiliad i hanfodion iaith weledol, trwy archwiliad dwys o luniadu, lliw ac ystod o ieithoedd a phrosesau gweledol 2D a 3D sylfaenol
  • Cam Llwybr – gall dysgwyr arbenigo mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau er enghraifft, Celfyddyd Gain, Dylunio Graffig, Ffasiwn/Tecstilau, 3D
  • Cam Cadarnhau – gweithio ar brosiect personol mawr yn seiliedig ar eich maes arbenigedd dewisol gan arwain at arddangosfa unigol ar ddiwedd y flwyddyn

Sgiliau a ddysgwyd:

  • Dealltwriaeth a chymhwyso’r broses greadigol
  • Sgiliau creadigol i lefel uchel yn eich hoff faes arbenigol
  • Technegau cyflwyno
  • Rheoli amser ac astudio hunangychwynnol a chymhelliant

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Mae gan y cwrs hwn enw da rhagorol am baratoi dysgwyr ar gyfer astudio mewn Addysg Uwch ledled y DU. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i gyrsiau gradd a gallant symud ymlaen i swyddi proffesiynol ym mhob maes o Gelf a Dylunio, gan gynnwys: Celfyddyd Gain, Dylunio Graffig, y Cyfryngau, Dylunio a Chrefft 3D, Ffasiwn/Tecstilau ac Addysgu.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy celf o £70 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

,

Modd:

Hyd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 20/06/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close