Sgiliau Byw’n Annibynnol
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Yn dilyn rhaglen anachrededig Colegau Cymru, we teach the fundamentals of how to live independently, how to look after yourself, the importance of personal hygiene, how to use public transport, prepare simple food and drinks, and handle money.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni hyblyg gan gynnwys Cornerstone, Horizons, Bridging/Pontio, SHINE ac ENFYS.
Mae’r rhaglenni hynod gynhwysol hyn yn cefnogi anghenion dysgwyr ac yn canolbwyntio ar opsiynau cyrchfan realistig. Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau bod dyheadau dysgwyr yn cael eu bodloni.
Mae rhaglenni ILS naill ai’n dri neu bedwar diwrnod yr wythnos yn y Coleg. Bydd disgwyl i ddysgwyr sy’n ymuno â rhaglen SHINE fynychu ymarfer gwaith annibynnol am ddau ddiwrnod yr wythnos.
Os hoffech fynychu’r Coleg ar gyfer gweithgareddau blasu neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mike Butcher, Rheolwr Cwricwlwm, ar m.butcher@pembrokeshire.ac.uk
- Cwblhau Rhaglen Gyswllt yn llwyddiannus
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Amherthnasol
Mae pob rhaglen Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) yn cynnwys y canlynol:
- Cynhwysiant Cymunedol – Ymglymiad cymunedol, diogelwch ffyrdd, teithio, gwirfoddoli a gweithgareddau menter
- Cyflogadwyedd – Arfer gwaith, trefniadaeth, rheoli amser, gweithio’n annibynnol, gwaith tîm, paratoi ar gyfer cyfweliad
- Sgiliau Byw’n Annibynnol – Perthnasoedd, coginio, rheoli arian, hylendid personol, dyletswyddau cartref, dewisiadau a gwneud penderfyniadau
- Iechyd a Lles – Ymarfer corff, celfyddydau perfformio, dewisiadau bywyd iach, hunan-eiriolaeth, hawliau a chyfrifoldebau
- Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
Mae gennym bartneriaeth ardderchog gyda Chynghorwyr Gyrfa Cymru ac asiantaethau allanol eraill. Maent, ar y cyd â chynrychiolwyr pontio’r coleg, yn helpu dysgwyr gyda chyfleoedd addas ar ôl eu hamser yn y coleg. Gall y rhain gynnwys cyngor ar fyw’n annibynnol (paratoi ar gyfer bod yn oedolyn), cyflogaeth (gwaith gwirfoddol) neu’r camau nesaf i ddatblygu eu haddysg yn y Coleg neu fynychu Canolfannau Gweithgareddau Cymdeithasol i Oedolion.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy sgiliau bywyd o £48 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 04/07/2023