Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Mae chwaraeon a ffitrwydd yn sectorau sy’n ehangu’n gyflym yn y DU gan arwain at lawer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i ddamcaniaeth chwaraeon a ffitrwydd. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am fyd chwaraeon, ymarfer corff a hamdden corfforol gyda phwyslais ar yr agweddau ffitrwydd a lles.
Mae’r rhaglen yn darparu amrywiaeth dda o bynciau ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol mewn ffitrwydd, maetheg chwaraeon, anafiadau chwaraeon ac adsefydlu neu alwedigaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Os ydych chi’n allblyg, yn frwdfrydig, yn caru ffitrwydd a gweithgaredd corfforol ac yn mwynhau her, dyma’r cwrs i chi.
Mae gweithgareddau ymarferol yn nodwedd bwysig o’r cwrs gyda myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon.
Disgwylir i bob dysgwr gymryd rhan a chyfrannu at un o’r academïau chwaraeon a drefnir gan y Coleg sy’n cynnwys dewis rhwng academïau pêl-droed, rygbi ac aml-chwaraeon.
Bydd y profiad o gaffael sgiliau ychwanegol, dadansoddi perfformiad a moeseg tîm yn gwella dealltwriaeth dysgwyr ymhellach o ddeinameg grŵp sydd o fudd iddynt yn eu cyflogaeth yn y dyfodol.
Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael Tystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol, sy’n cyfateb i un Lefel A.
Mae cwblhau’r ail flwyddyn yn arwain at Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol, sy’n cyfateb i dri Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Dylid dangos diddordeb brwd mewn gweithgaredd corfforol a bod yn ffit yn gorfforol
- teilyngdod
- cyfweliad
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Yn ddelfrydol TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- TGAU Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:
- Gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon a hamdden
- Iechyd a lles mewn chwaraeon
- Datblygu sgiliau ffitrwydd
- Maeth
- Anafiadau chwaraeon
- Profi ffitrwydd
- Tylino chwaraeon swyddogaethol
- Hunangyflogaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- Datblygu sgiliau hyfforddwr personol
Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau tiwtorial fel rhan o’r rhaglen hon.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant chwaraeon yn cynnwys: Hyfforddwr Personol, Maethegydd, Hyfforddwr Campfa, Therapydd Chwaraeon, Hyfforddwr Ffitrwydd, Gwyddonydd Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Athro/Athrawes Addysg Gorfforol, Rheolwr Datblygu Pêl-droed, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol, Rheolwr Adnabod Talent, Adsefydlwr Chwaraeon, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, Ffisiotherapydd Chwaraeon, Dyfarnwr, Hyfforddwr Sgïo, Hyfforddwr Antur Awyr Agored, Dadansoddwr Perfformiad.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
- Cit Academi Pêl-droed - £160 (os yn berthnasol)
- Cit Academi Rygbi - £120 (os yn berthnasol)
- Pecyn Academi Merched - £110 (os yn berthnasol)
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Bydd angen i chi dalu ffi cyfleuster o £60 bob ffitrwydd blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Citiau chwaraeon penodol (£110 - £160) yn daladwy cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Lefel: | |
|---|---|
| Modd: | |
| Hyd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
