Cynnal a Chadw Modurol
Cynnal a Chadw Modurol
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn (7290)
Os ydych wedi cwblhau eich Lefel 1 ac yn llawn cymhelliant ac yn dymuno paratoi eich hun ar gyfer gyrfa yn y diwydiant modurol, yna dyma’r cwrs i chi.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn ddilyniant llawn-amser o’r cwrs Lefel 1 Cynnal a Chadw Modurol.
Os ydych wedi cael prentisiaeth gallwch wneud y Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Modurol.
Pwnc ymarferol yw hwn, mae hanner y cwrs yn seiliedig yn ein gweithdai pwrpasol lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol ar amrywiaeth o gerbydau ac offer y Coleg, gyda gweddill yr amser yn astudio theori yn ein hystafelloedd dosbarth ag adnoddau llawn.
- Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Mae’r unedau gorfodol i’w hastudio yn cynnwys:
- Iechyd, Diogelwch a Chadw Trefn Da yn yr Amgylchedd Modurol
- Cefnogi Rolau Swyddi yn yr Amgylchedd Gwaith Modurol
- Deunyddiau, Gwneuthuriad, Offer a Dyfeisiau Mesur yn yr Amgylchedd Modurol
- Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Rheolaidd
- Unedau a Chydrannau Peiriannau Hylosgi Cerbyd Ysgafn
- Unedau a Chydrannau Cerbydau Trydanol Ysgafn
- Unedau a Chydrannau Siasi Cerbyd Ysgafn
- Unedau a Chydrannau Trawsyrru a Gyrru
- Unedau a Chydrannau System Tanwydd, Tanio, Aer a Gwacáu
Unedau ychwanegol ar gael o’r grwpiau dewisol i wneud iawn am weddill y credydau ar gyfer y cymhwyster.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, os byddwch yn cael prentisiaeth, byddwch yn gallu symud ymlaen ar y brentisiaeth Lefel 3.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy peirianneg o £60 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
---|---|
Lefel: | |
Modd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023