Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Modurol
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Modurol
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn/Trwm/Beiciau Modur
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phob agwedd ar gynnal a chadw ac atgyweirio modurol, gan gynnwys gwasanaethu cerbydau, nodi diffygion a chywiro cerbydau ysgafn neu drwm.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl a gyflogir yn y diwydiant modurol. Mae’r cwrs yn ymdrin â phob agwedd ar gynnal a chadw ac atgyweirio Cerbydau Modur, gan gynnwys gwasanaethu cerbydau, nodi diffygion a chywiro.
Gallwch ddewis naill ai’r llwybr Cerbydau Ysgafn neu Cerbydau Trwm yn dibynnu ar eich cyflogaeth bresennol.
Mae’n ofynnol i chi fynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos, felly mae angen ymrwymiad, presenoldeb da a sgiliau trefnu cryf.
Efallai y bydd yn bosibl i chi astudio NVQ yn unig.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Gall Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu fod yn gyfwerth â TGAU
- Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar theori a gwaith ymarferol.
Yn dibynnu ar ba lwybr a ddewisoch (cerbydau ysgafn neu cerbydau trwm), dros ddwy flynedd, bydd dysgwyr yn ymdrin â meysydd fel cynnal a chadw cerbydau, symud ac ailosod unedau a chydrannau cerbydau a gwneud diagnosis a chywiro diffygion cerbydau.
Mae’r unedau i’w cwmpasu yn cynnwys:
- Iechyd, Diogelwch a Chadw Tŷ Da yn yr Amgylchedd Modurol
- Cefnogi Rolau Swyddi yn yr Amgylchedd Gwaith Modurol
- Deunyddiau, Gwneuthuriad, Offer a Dyfeisiau Mesur yn yr Amgylchedd Modurol
- Cynnal a Chadw Cerbydau Rheolaidd
- Unedau a Chydrannau Peiriant
- Unedau a Chydrannau Trydanol
- Unedau Siasi a Chydrannau
- Unedau a Chydrannau System Mecanyddol, Iro ac Oeri Peiriannau
- Unedau a Chydrannau Trawsyrru a Gyrru
- Unedau a Chydrannau System Tanwydd, Tanio, Aer a Gwacáu
Os nad oes gennych gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg ar hyn o bryd, efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cyfathrebu
- Cymru Sgiliau Hanfodol (CSH) – Sgiliau Cymhwyso Rhif
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
- Arholiad ar-lein
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar Lefel 2 byddwch wedi datblygu sylfaen dda o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i ddod yn dechnegydd gwasanaeth cerbydau ac yn barod i symud i’r lefel nesaf. Gallech ddod yn Dechnegydd Gwasanaeth Cerbydau Ysgafn/Cerbydau Trwm neu Dechnegydd FastFit/Teiars.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 27/11/2023