Yma i helpu
Tîm Cyllid Myfyrwyr
Mae yna nifer o opsiynau ariannu ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. I gael cymorth neu gyngor, cysylltwch â’n tîm Cyllid Myfyrwyr.
Cysylltwch â ni:
- Dewch o hyd i ni lan llofft yn Yr Hwb
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:30 i 09:30 a 12:00 i 13:30
- s.finance@pembrokeshire.ac.uk
Hawlio Budd-daliadau
Os ydych yn hawlio budd-daliadau cyn dechrau cwrs yn y Coleg, cysylltwch â’ch swyddfa budd-daliadau leol i gael gwybodaeth am sut y gallai astudiaethau llawn-amser effeithio ar eich budd-dal. Dim ond gwybodaeth/cyngor cyffredinol ac atgyfeirio y gall y Coleg ei roi gan fod amgylchiadau unigol yn amrywio. Fe’ch cynghorir yn gryf i geisio arweiniad pellach am eich amgylchiadau penodol cyn gwneud cais am gwrs yn y Coleg.
Debyd Uniongyrchol
Os gofynnwyd i chi sefydlu Debyd Uniongyrchol gyda’r Coleg, dilynwch y ddolen hon i nodi eich manylion.
Myfyrwyr Addysg Bellach
Os ydych yn astudio ar gwrs addysg bellach yn y Coleg (er enghraifft Lefel A neu Ddiploma), efallai y byddwch yn gallu cyrchu’r ffynonellau cyllid canlynol:
Bwrsariaeth Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT)
Cynigir y Bwrsariaeth AAT i’r rhai sydd mewn angen ariannol ac mae’n talu ffioedd llawn y darparwr hyfforddiant, ffi gofrestru AAT, yn ogystal â’r holl ffioedd asesu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Bwrsari AAT: cyfle i newid bywydau
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae LCA ar gael i fyfyrwyr llawn-amser 16-18 oed sy’n astudio cwrs addysg bellach. Mae cymhwysedd yn dibynnu ar incwm y cartref fel a ganlyn:
- Hyd at £20,817 y flwyddyn (os mai chi yw’r unig berson ifanc sy’n astudio yn y cartref) – £30 yr wythnos
- Hyd at £23,077 y flwyddyn (os oes pobl ifanc eraill yn y cartref sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant) – £30 yr wythnos
Telir yn ystod y tymor yn unig ac mae’n seiliedig ar bresenoldeb 100% sy’n cael ei fonitro a’i adrodd yn wythnosol.
Telir LCA yn syth i’ch cyfrif banc bob pythefnos.
Os caiff ei gymeradwyo rhaid i chi gwblhau Cytundeb LCA cyn i chi ddechrau derbyn taliadau.
Mae ffurflenni cais ar gael o’r Hwb neu gellir eu llwytho i lawr o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG)
Mae WGLG ar gael i fyfyrwyr 19 oed neu hŷn sy’n astudio ar gwrs addysg bellach llawn-amser neu ran-amser, ac sydd ag incwm cartref o lai na £18,370.
Mae hwn yn grant prawf modd o hyd at £1,500 ar gyfer y flwyddyn academaidd yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Os caiff ei gymeradwyo rhaid i chi gwblhau Cytundeb GLlC cyn i chi ddechrau derbyn taliadau.
Mae ffurflenni cais ar gael o’r Hwb neu gellir eu llwytho i lawr o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF)
Mae gan y Coleg fynediad at gronfa Llywodraeth Cymru ac mae’n ei gweinyddu i’w defnyddio i ddarparu taliadau brys mewn perthynas ag argyfyngau annisgwyl; a darparu cymorth ariannol i’r myfyrwyr cymwys hynny y gallai ystyriaethau ariannol lesteirio eu mynediad i addysg bellach, neu sydd, am ba bynnag reswm, gan gynnwys anabledd corfforol neu anabledd arall, yn wynebu anawsterau ariannol.
Mae hon yn gronfa ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd sydd ag incwm cartref o lai na £29,999 i helpu gyda chyfraniad tuag at gostau cwrs hanfodol fel llyfrau, offer, gofal plant a chludiant.
Byddai myfyrwyr sy’n derbyn LCA/WGLG fel arfer yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth o’r gronfa. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer LCA neu WGLG, bydd angen tystiolaeth o incwm cartref fel cyfriflenni banc neu Hysbysiad Dyfarniad Credyd Treth wrth wneud cais.
Mae ffurflenni cais ar-lein Cronfa Ariannol Wrth Gefn.
Cyn gwneud cais, darllenwch y nodiadau canllaw amgaeëdig.
Ymddiriedolaeth Hyfforddi Danny Fellows
Mae benthyciadau di-log o hyd at £2,500 ar gael i unigolion sy’n byw yn Sir Benfro sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant yn y sectorau Ynni, Peirianneg ac Adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dannyfellowstrainingtrust.org.uk
Cronfa Amddifadedd
Mae’r gronfa hon ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio ar Brentisiaeth, Twf Swyddi Cymru+ neu Raglen Oedolion a allai gael eu rhwystro gan ystyriaethau ariannol neu wynebu anawsterau ariannol.
Mae’r gronfa ar gael i fyfyrwyr sydd ag incwm cartref o lai na £23,077 i helpu gyda chyfraniad posibl tuag at offer cwrs hanfodol, llyfrau, prydau am ddim, cludiant brys, gofal plant brys a chymorth caledi.
Mae ceisiadau ar-lein ar Cronfa Amddifadedd.
Cyfrif Dysgu Personol (PLA)
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cymorth i unigolion cyflogedig 19 oed a throsodd sy’n ennill llai na £29,534 y flwyddyn, yn ogystal â’r rhai sydd ar ffyrlo neu y mae eu swyddi mewn perygl, i ennill y sgiliau cywir i newid gyrfa neu symud ymlaen mewn cyflogaeth.
Mae PLAs yn darparu cyrsiau a chymwysterau hyblyg, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Cyfrif Dysgu Personol.
Gwobrau Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog
Taliad o hyd at £250 i bobl 16-30 oed i’w helpu i gael gwaith, addysg neu wirfoddoli.
Gall Gwobrau Datblygu helpu i ariannu offer, ffioedd cwrs a hyfforddiant yn ogystal â chostau gofal plant a chludiant.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0800 842 842 neu ewch i princes-trust.org.uk
Cyllid ReAct
Mae’r cynllun ReAct yn cefnogi unigolion sy’n byw yng Nghymru i ennill sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu siawns o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael eu diswyddo.
Os ydych wedi colli eich swydd yn ystod y tri mis diwethaf, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant o hyd at £1,500 tuag at becynnau cymorth i’ch helpu i ennill sgiliau newydd, ailhyfforddi neu newid gyrfa. Efallai y byddwch hefyd yn cael cymorth gyda chostau teithio a gofal plant tra byddwch yn dilyn cwrs.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gyrfa Cymru lleol.
Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton
Nod y gronfa yw hybu addysg plant a phobl ifanc dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro.
Gall unigolion wneud cais am grantiau hyd at £1,000 y flwyddyn, y gellir eu defnyddio tuag at ddeunyddiau, offer a gweithgareddau/teithiau.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Ymddiriedolaeth Thomas Wall
Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol achrededig hyd at Lefel 3.
Mae’r grantiau ar gael i unigolion sy’n wynebu caledi sy’n eu hatal rhag mynd i gyflogaeth neu addysg ac sy’n methu â sicrhau cyllid trwy ddulliau eraill.
Bydd ymgeiswyr ond yn cael eu hystyried os nad ydynt eisoes yn gymwys i weithio ac yn gallu dangos angen cymhellol.
Am ragor o wybodaeth ewch i thomaswalltrust.org.uk
Bwrsari Hyfforddeiaeth
Os ydych rhwng 16-18 oed ac wedi cofrestru ar raglen Hyfforddeiaeth gallech fod yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth wythnosol. Mae taliad yn amodol ar bresenoldeb.
Cyfrif Dysgu Personol (PLA)
Myfyrwyr Addysg Uwch
Mae’r ffynonellau cyllid canlynol ar gael os ydych yn astudio ar gwrs addysg uwch yn y Coleg (enghraifft Gradd, HND, HNC).
Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer Llawn Amser
Mae myfyrwyr addysg uwch llawn-amser yn gymwys i wneud cais am y cymorth canlynol:
- Cymorth Ffioedd Dysgu – mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £9,250 ar gael i ddysgwyr sy’n astudio yng Nghymru. Nid yw hawl yn dibynnu ar incwm y cartref.
- Cymorth gyda chostau byw – mae pecyn cymorth sy’n cyfuno Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynhaliaeth o hyd at £12,150 ar gael i helpu gyda chostau fel bwyd, llyfrau, rhent a threuliau eraill tra byddwch yn astudio. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm y cartref.
Gwnewch gais ar-lein yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer Rhan-amser
Mae myfyrwyr addysg uwch rhan-amser yn gymwys i wneud cais am y cymorth canlynol:
- Cymorth Ffioedd Dysgu – mae Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £2,625 ar gael i ddysgwyr sy’n astudio yng Nghymru. Nid yw hawl yn dibynnu ar incwm eich cartref; fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn astudio dwyster cwrs o 25% o leiaf.
- Cymorth gyda chostau byw – mae pecyn cymorth sy’n cyfuno Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynhaliaeth o hyd at £6,724 ar gael i helpu gyda chostau fel bwyd, llyfrau, rhent a threuliau eraill tra byddwch yn astudio. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm y cartref a dwyster y cwrs.
Gwnewch gais ar-lein yn cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Cymorth Pellach gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
- Grant Cymorth Arbennig
- Grant Gofal Plant
- Grant Oedolion Dibynnol
- Lwfans Dysgu i Rieni
- Lwfans Myfyrwyr Anabl
Bwrsariaeth Coleg Sir Benfro
Bwrsariaeth Coleg Sir Benfro ar gyfer myfyrwyr Lefel 3 sy’n symud ymlaen i gyrsiau AU llawn-amser.
Mae bwrsariaeth o £500 ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau AU llwan-amser yng Ngholeg Sir Benfro sydd wedi symud ymlaen o gwrs Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro y flwyddyn academaidd flaenorol. Caiff y taliad ei rannu a’i wneud ar ôl cwblhau blwyddyn un ac ar ôl cwblhau’r cwrs.
Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton
Nod y gronfa yw hybu addysg plant a phobl ifanc dan 25 oed sy’n byw ym Mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro.
Gall unigolion wneud cais am grantiau hyd at £1,000 y flwyddyn, y gellir eu defnyddio tuag at ddeunyddiau, offer a gweithgareddau/teithiau.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.