TÎM BUDDUGOL
Gwobrau
Isod mae rhai o’r gwobrau a gyflawnwyd gan Goleg Sir Benfro a’i staff anhygoel yn y blynyddoedd diwethaf.
Y Ddraig Werdd
Mae’r Coleg wedi’i ardystio i Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd Lefel 5 ers 2013. Lefel 5 yw’r lefel uchaf ac mae’n dangos safonau uchel y Coleg o reolaeth amgylcheddol. Mae ardystio yn cynnwys archwiliad blynyddol. Rydym wedi ymrwymo i fod yn carbon sero net erbyn 2030.
Enillydd Gwobrau Rhagoriaeth Dysgu 2022
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Dysgu yn wobrau busnes ar gyfer y sector hyfforddi/dysgu a datblygu busnes cyfan. Mae'r Gwobrau'n ddiduedd ac yn annibynnol ac yn ceisio gwobrwyo mentrau, rhaglenni, cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol, ystwyth, arloesol, rhagorol ac effeithiol lle bynnag y deuir o hyd iddynt. Enillodd y Coleg y wobr yn y categori Offer Dysgu a Thechnoleg yn 2022.
Cynllun Cydnabod Cyflogwr Cyfamod y Lluoedd Arfog (ERS)
Mae Coleg Sir Benfro yn falch o gefnogi lluoedd arfog a milwyr wrth gefn y DU ac mae wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog fel addewid gwirfoddol o gydgefnogaeth. Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi rhoi cymorth eithriadol i gymuned y lluoedd arfog ac amddiffyn drwy fynd y tu hwnt i’w haddewidion cyfamod.
Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Rydym wedi cymryd yr holl gamau craidd sy'n ofynnol i fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cael ein dilysu'n flynyddol ac yn falch o'r ardystiad hwn.
Gwobr Ansawdd Cyfarwyddyd Gyrfaoedd ac Addysg (CEG)
Y Safon Ansawdd mewn Gyrfaoedd yw'r wobr ansawdd genedlaethol ar gyfer addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd (CEIAG) mewn ysgolion uwchradd, colegau a dysgu seiliedig ar waith.