Croeso
O gyrsiau Lefel-A a phrentisiaethau i raddau a dosbarthiadau nos rhan-amser, bydd ein cyrsiau yn eich helpu i gyflawni eich nodau.
Gyda thua 2,000 o ddysgwyr llawn-amser a 12,500 o ddysgwyr rhan-amser, mae tiwtoriaid y Coleg yn darparu fframwaith disgybledig a chefnogol sy’n canolbwyntio ar lwyddiant dysgwyr. I’r rhai sy’n gadael yr ysgol, mae’r Coleg yn darparu amgylchedd bywiog, ysgogol sy’n gweithredu fel carreg gamu tuag at y brifysgol a byd gwaith.
Mae’r Coleg yn falch o’i amrywiaeth ardderchog o gyfleusterau ac offer, yn arbennig ein mannau astudio, ystafelloedd cyfrifiadura a TG, canolfan adeiladu, adain beirianneg, gweithdai dylunio ac, yn fwyaf diweddar, ein Canolfan Dysgu Lefel-A gwerth £6.6m – CAMPWS6.
Beth bynnag y byddwch yn dewis ei astudio, byddwch yn sicr o groeso cynnes yng Ngholeg Sir Benfro.
Dr Barry Walters Pennaeth
Pam Dewiswch Ni
Gadewch i ni hybu eich uchelgais
Ble bynnag y mae eich angerdd byddwn yn eich helpu i ddatgloi eich potensial a’ch gosod ar y llwybr i gyflawni gyrfa eich breuddwydion. Dechreuwch eich taith gyda ni heddiw a byddwch chi un cam yn nes yn barod. #gwnewchiddoddigwydd
Cyfleusterau o safon diwydiant
Pa bynnag gwrs a ddewiswch byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau o safon diwydiant yn amrywio o stiwdios recordio i weithdai morol a bwyty a salonau masnachol a llawer, llawer mwy.
Cymorth anhygoel
Nid oes angen i chi wynebu’r byd ar eich pen eich hun. Yn y Coleg rydym wedi sefydlu tîm anhygoel o weithwyr cymorth proffesiynol i’ch helpu trwy gydol eich amser gyda ni.
Teithiau 3D y Coleg
Cewch weld rhannau o’r Coleg cyn i chi gyrraedd. Rydym yn defnyddio Matterport (gwefan allanol) i ddarparu profiad trochi, rhyngweithiol sydd ar gael yn unrhyw le.
Ystafelloedd Celf
Cewch weld rhai o'n Hystafelloedd Dosbarth Celf a Dylunios