DWY IAITH – DWYWAITH Y DEWIS
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog
Yma yng Ngholeg Sir Benfro rydym yn ymrwymedig i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y gweithle yng Nghymru a thu hwnt.
Byddwn felly yn eich annog a’ch cefnogi i ddefnyddio a datblygu eich sgiliau Cymraeg tra’n astudio gyda ni. Wrth wneud hynny, byddwch yn cynnal eich Cymraeg ac yn dod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith a chymdeithasol.
I adlewyrchu’r ymrwymiad hwn, mae’r Coleg wedi datblygu Strategaeth Datblygu Darpariaeth Ddwyieithog 2023–2026, sy’n rhoi trosolwg cynhwysfawr o’n darpariaeth cwricwlwm Cymraeg a dwyieithog, yn ogystal â’n cyfleoedd allgyrsiol Cymraeg a Chymreig.
Mae’r Coleg yn datblygu ei ddarpariaeth ddwyieithog yn barhaus. Dyma’r hyn y gallwn ei gynnig i chi yn Gymraeg ar hyn o bryd:
- Gwneud cais, cyfweliad a chofrestru
- Cyfleoedd o fewn y rhaglen sefydlu
- Asesiadau cychwynnol WEST
- Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu a Rhifedd
- Y raglen diwtorial a sesiynau tiwtorial
- Cwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs
- Asesiadau llafar / ymarferol / ysgrifenedig
- Ailsefyll TGAU Mathemateg
- Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Cymraeg Ail Iaith Lefel-A
- Lleoliadau profiad gwaith
- Defnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau’r ystafell ddosbarth
- Sesiynau datblygu sgiliau Cymraeg i gefnogi cyflogadwyedd
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n hyderus ac yn rhugl yn yr iaith yn ogystal â chyfleoedd i’r rhai sy’n llai hyderus neu’n ddysgwyr. Wrth barhau i astudio’ch cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn dwy iaith – Cymraeg a Saesneg – a fydd yn agor drysau i chi pan fyddwch yn gadael y Coleg.
Cofiwch:
- ddweud wrthym eich bod yn siarad Cymraeg er mwyn i ni allu eich cefnogi a’ch darparu ag amrywiaeth o gyfleoedd Cymraeg
- eich bod yn gallu ennill gwobr ariannol am gwblhau gwaith yn Gymraeg

Cysylltwch â ni:
- Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y ddarpariaeth, y cyfleoedd a’r cymorth Cymraeg sydd ar gael yng Ngholeg Sir Benfro, cysylltwch â’r Tîm Datblygu’r Gymraeg
- 01437 753 435
- 01437 753 121
- cymraeg@pembrokeshire.ac.uk
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:30 i 16:00
- Dilynwch ni ar ein tudalen Facebook: Cymraeg - Coleg Sir Benfro

Cymorth Cymraeg Ar Gael
Pa gymorth sydd ar gael i ddysgwyr a phrentisiaid?
Os nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i astudio cwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, beth am astudio rhan ohono drwy’r Gymraeg?
Mae cymorth ar gael i fyfyrwyr a phrentisiaid sy’n astudio cyrsiau yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn eu cynorthwyo i wella eu sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig.
- Deunyddiau ac adnoddau dysgu Cymraeg a dwyieithog
- Rhestrau termau a geirfa dwyieithog
- Cymorth un-i-un gan Diwtoriaid Cefnogi Dwyieithrwydd
- Cymorth dysgu a chymorth bugeiliol
- Cymorth gwella sgiliau Cymraeg
- Cysill ar gyfrifiaduron y coleg
- Geiriaduron terminoleg
- Apiau i helpu gydag astudio
Pa Gyfleoedd Cyfoethogi Cymraeg sydd ar gael?
Mae gennym amrywiaeth o opsiynau cyfoethogi’r Gymraeg ar gael i chi yn cynnwys:
- Cyfleoedd Cymraeg yn Ffair y Glas y coleg
- Ymuno â’r Clwb Cymraeg
- Digwyddiadau a gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol e.e. gweminarau a gweithdai
- Bod yn Llysgennad y Gymraeg
- Ymaelodi â’r Urdd a chystadlu mewn cystadlaethau’r Urdd
- Digwyddiadau dathlu’r Gymraeg a Diwylliant Cymru traws-golegol e.e. Diwrnod Shwmae, Diwrnod Santes Dwynwen, Dydd Miwsig Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru a digwyddiadau chwaraeon
- Gweithdai a siaradwyr gwadd yn hybu dwyieithrwydd
- Ymweliadau addysgiadol
- Gweithgareddau’r Urdd a Menter Iaith Sir Benfro
Bydd y Tîm Datblygu’r Gymraeg yn hapus i’ch cefnogi i gymryd rhan yng nghyfleoedd Cymraeg y coleg.
Beth yw'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol?
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio’n agos iawn gyda phrifysgolion a cholegau Addysg Bellach yng Nghymru er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw. Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am y buddsoddiad, yr arweinad a’r gefnogaeth y mae’n ei ddarparu. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Beth mae Llysgennad y Gymraeg yn ei wneud?
Bob blwyddyn, caiff myfyrwyr y cyfle i wneud cais i fod yn Llysgennad y Gymraeg. Prif nod y rôl hon yw cefnogi’r coleg i hybu’r Gymraeg mewn meysydd penodol a chynorthwyo i greu cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio’u Cymraeg tra eu bod yn astudio yma. Mae hefyd yn rhoi mwy o gyfle i’r Llysgenhadon gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein Llysgenhadon Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2024/25 yw:
- Elain James, yn cynrychioli Adeiladu
- Cerys Witchell, yn cynrychioli’r Diwydiannau Creadigol
- Mara Cozens Miles, yn cynrychioli Iechyd a Gofal Plant
- Hanna Griffiths, yn cynrychioli prentisiaethau
Gallwch ddarllen blogiau Llysgenhadon y Gymraeg ar dudalen Facebook Cymraeg – Coleg Sir Benfro
Mae gan y Coleg dri Llysgennad y Gymraeg arall hefyd,ac ar gyfer 2024/25, y rhain yw:
- Clay Skipper, yn cynrychioli Lefel-A
- Amy Lee-Miles, yn cynrychioli’r Diwydiannau Creadigol
- Dewi Evans, yn cynrychioli Academi Sgiliau Bywyd
Dyma’r hyn oedd gan Amy Lee-Miles i’w ddweud am fod yn Llysgennad y Gymraeg ym maes Y Diwydiannau Creadigol:
“”
Beth yw'r manteision?
Mae manteision addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o allu siarad dwy iaith:
- Ennyn gwell dealltwriaeth o’r pwnc gan eich bod yn dysgu, i bob pwrpas, yn y ddwy iaith
- Cynnal sgiliau ieithyddol sydd eisoes wedi eu meithrin yn yr ysgol
- Datblygu sgiliau gwybyddol
- Datblygu sgiliau cyflogaeth gan fod galw am weithwyr dwyieithog ym mhob math o swyddi
- Rhoi sylfaen ardderchog i unrhyw yrfa
- Cynyddu cyfleoedd a dewisiadau; gall agor drysau i bob math o gyfleoedd yn y dyfodol
- Cyfle i gwrdd â phobl newydd a bod yn rhan o ddau ddiwylliant
- Darparu gwasanaeth dwyieithog fel marc ansawdd
- Ysgoloriaethau ar gyfer rhai cyrsiau yn y brifysgol
Mae eich sgiliau dwyieithog yn hynod werthfawr a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach.
Y Tîm










Dyddiadau i'r dyddiadur!
- Diwrnod Shwmae - 15 Hydref
- Diwrnod Hawliau’r Gymraeg - 07 Rhagfyr
- Diwrnod Santes Dwynwen - 25 Ionawr
- Dydd Miwsig Cymru - 10 Chwefror
- Eisteddfod y Coleg
- Dydd Gwyl Dewi - 01 Mawrth
- Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru Mis - Mai
Ewch i dudalen Facebook Cymraeg – Coleg Sir Benfro i gael cipolwg ar weithgareddau eleni a gweld sut wnaeth ein dysgwyr gymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Dathlu Cymru’ y Coleg!
Profiadau myfyrwyr a phrentisiaid o astudio’n ddwyieithog
“Er i mi nawr ddod i ddiwedd fy amser yma yng Ngholeg Sir Benfro, mae’r profiad o ddysgu fy nghrefft yma wedi bod yn arbennig. A dwi’n sicr na fyddwn i wedi mwynhau cymaint, na chwblhau fy ngwaith i’r safon wnes i heb y cyfle o allu astudio a chwblhau gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. I unigolyn fel fi sydd wedi derbyn ei addysg trwy gyfrwng y Gymraeg trwy ei oes, roedd y newid syfrdanol o astudio popeth yn Saesneg yn syth wedi bod yn heriol. Gyda fy sgiliau iaith Gymraeg tipyn yn gryfach na fy Saesneg, ac wedi derbyn fy addysg gynradd ac uwchradd i gyd hyd yn hyn trwy’r Gymraeg, roedd yn anodd dysgu trwy iaith ddieithr i raddau. Pan ddaeth y coleg â’r cyfle euraidd hyn o fy ngalluogi i astudio’n ddwyieithog ata i, fe neidiais ato yn syth. Roeddwn yn gwybod byddai astudio a chwblhau gwaith yn fy mamiaith yn mynd i wella fy mhrofiad a safon gwaith yn aruthrol a dwi’n ddiolchgar iawn i’r Coleg am eu gwaith caled o ddarparu hyn i mi fel myfyriwr.”
“Fel dysgwr ail iaith, ro’n i’n ffodus i allu ymdrochi yn y Gymraeg o ddechrau fy astudiaethau yn y coleg. Ochr yn ochr â fy Lefel-A, ges i gefnogaeth i gwblhau’r Fagloriaeth yn ddwyieithog a mynd ymlaen i ennill gwobr am hyn. Mae’r coleg yn ffodus i gael cymaint o staff sy’n siarad Cymraeg a rhai hefyd sy’n dysgu. Felly, gyda digwyddiadau fel Diwrnod Shwmae, mae’n hyfryd gweld y gymuned Gymraeg yn dod at ei gilydd. Mae dysgu Cymraeg yng Ngholeg Sir Benfro wedi rhoi llawer o gyfleoedd i fi er enghraifft cymryd rhan mewn Podlediad gyda Nick Yeo, cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Medal Bobi Jones Yr Urdd ac agor Atriwm y Coleg yn ddwyieithog gyda’r Gweinidog Addysg Jeremy Miles. Gyda chefnogaeth fy narlithwyr a staff Cymraeg y coleg, rydw i wedi dechrau fy ngyrfa fel Tiwtor Cefnogi Dwyieithrwydd yn y coleg, i gefnogi dysgwyr eraill gyda fy angerdd tuag y Gymraeg.”

“Penderfynais wneud y brentisiaeth yn Gymraeg oherwydd Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac fe es i i Ysgol Bro Teifi lle wnes i bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf yn gweld ysgrifennu yn Gymraeg yn rhwyddach nag ysgrifennu yn Saesneg a dyma pam wnes i benderfynu gwneud y brentisiaeth drwy’r Gymraeg. Mae’r Coleg wedi rhoi llawer o gymorth i mi er mwyn cwblhau fy ngwaith coleg yn Gymraeg.
“Penderfynais i hefyd fod yn Llysgennad y Gymraeg oherwydd hoffwn i annog a hybu mwy o brentisiaid i wneud eu prentisiaeth yn y Gymraeg. Rydw i hefyd yn annog fy nghydweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ar y ward hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae dweud geiriau fel ‘Bore da, sut ‘dych chi?’ a ‘Diolch’ yn gallu mynd yn bell gyda’r claf sy’n gwneud iddyn nhw ymddiried ynddoch chi a theimlo’n fwy cyfforddus yn yr ysbyty. Mae’r hen bobol yn teimlo’n llawer fwy cartrefol pan maent yn siarad eu hiaith gyntaf. Maent yn deall fwy ac yn gallu cyfarthebu’n well.”
