Parhewch mewn Cysylltiad! Parhewch wedi’ch Ysbrydoli!

Cyrsiau Cymunedol ar Garreg eich Drws!

Mae ein cyrsiau cymunedol rhan-amser wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion o bob oed. Mae cyrsiau yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gael yn ein prif gampws yn Hwlffordd, yn ogystal ag mewn lleoliadau cymunedol ar draws Sir Benfro. Mae gennym dîm gwych o diwtoriaid ac adran dysgu oedolion yn y gymuned bwrpasol a all eich cefnogi trwy eich taith ddysgu – beth bynnag fo’ch diddordeb a’ch nodau.

Mae llawer o’n cyrsiau byr ar gael i’w harchebu a thalu ar-lein, yna byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch lle ac unrhyw fanylion cwrs ychwanegol trwy e-bost.

Rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu cyrsiau newydd ym mis Medi 2024, gan gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Crochenwaith a Sgiliau Gwnïo. Mae croeso i chi gysylltu â ni nawr i fynegi eich diddordeb!

Cysylltwch â ni:

Two people in tunnel light by purple fairy lights.
Cropped image of person using a computer.

Am ein Cyrsiau

Mae’r cyrsiau Cymunedol wedi’u hanelu at oedolion 18 oed a throsodd. Efallai y byddwn yn ystyried dysgwyr rhwng 16 a 18, ond gwiriwch cyn i chi gofrestru.

Nid oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau blaenorol ar gyfer y cyrsiau Cymunedol. Maent wedi’u cynllunio i chi ddysgu sgil newydd gyda phobl o’r un anian.

Bydd ein tîm dysgu cymunedol cyfeillgar yn gwrando ar yr hyn yr hoffech ei wneud, ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch helpu i’w gyflawni; pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs cymunedol bydd gennych hefyd fynediad at yr holl gyfleusterau sydd ar gael ar ein prif gampws.

Beth yw barn ein dysgwyr am ein cyrsiau?

Floor lit by led lights.

Am ein Lleoliadau

Hwlffordd
Campws Coleg

Wedi’i Leoli ar Brif Gampws Coleg Sir Benfro

Coleg Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1SZ

Penparc
CFfI

CFfI Penparc Ystafell Berkley Penparc Aberteifi SA43 1RL

Freystrop
Neuadd Gymunedol

Ar y ffordd fawr, ar hyd Targate Road

Neuadd Bentref Freystrop
Croes Freystrop
Sir Benfro
SA62 4LQ

Neyland
Hwb Cymunedol

Neyland Hwb Cymunedol

John Street

Neyland

Aberdaugleddau

SA73 1TH