LLONGYFARCHIADAU
Dydd Gwener 05 Gorffennaf 2024
Croeso i’r dudalen archebu ar gyfer y Seremoni Raddio. Oherwydd yr argyfwng costau byw, eleni rydym wedi hepgor y ffi weinyddol a’r tâl am docyn gwesteion er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosibl fwynhau’r seremoni a dathlu eich cyflawniadau. Mae mynediad i’r eglwys gadeiriol trwy docyn yn unig, felly mae dal yn bwysig iawn eich bod yn archebu y nifer perthnasol o docynnau isod.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ddydd Gwener 05 Gorffennaf 2024, 8:45yb.
Cysylltwch â ni:
- Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, SA61 1SZ
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:00 i 17:00
- 01437 753 163
- marchnata@colegsirbenfro.ac.uk

Ffurflen Archebu

Gŵn/Gynau
Bydd angen i chi logi eich gŵn cyn 09 Mehefin gydag Ede and Ravenscroft drwy eu gwefan.

Cinio
Mae cinio dau gwrs ar gael yn Ffreutur Tyddewi ar ôl y seremoni ac ar ôl lluniau’r grŵp graddedigion, mae’r fwydlen a’r gost i’w cadarnhau a byddant yn cael eu e-bostio atoch yn fuan.

Ffotograffiaeth
Bydd gennym ffotograffydd allanol, Allan James Photography, a fydd ar gael i dynnu lluniau arddull stiwdio ohonoch chi a’ch teulu cyn ac ar ôl eich seremoni. Nid oes angen i chi archebu ymlaen llaw a byddwch yn gallu archebu’r lluniau’n uniongyrchol o’u gwefan yn dilyn y seremoni.
Prisiau argraffu ffotograffiaeth yw:
- Un llun digidol: £25
- Tro llun digidol: £60
- Print wedi’i fowntio 10″ x 8″ (A4): £20 (gan gynnwys costau postio)
- Llun mewn ffrâm 10″ x 8″ (A4) gyda mownt: £60 (gan gynnwys costau postio)
- Ffrâm ddeuol gyda mownt a dau lun 10″ x 8″ (A4): £90 (gan gynnwys costau postio)
- Pedwar print 5″ x 4″: £15