Debyd Uniongyrchol Di‑bapur
Bydd eich Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol yn cael ei gadarnhau i chi drwy e-bost o fewn 3 diwrnod gwaith ac nid hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y casgliad cyntaf. Bydd unrhyw newidiadau i amlder neu swm eich casgliadau yn cael eu hysbysu 10 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
Yr enw a fydd yn ymddangos ar eich Datganiad Banc yn erbyn y Debydau Uniongyrchol fydd Coleg Sir Benfro.
Cysylltwch â ni:
-
Coleg Sir Benfro
Merlins Bridge
Hwlffordd
SA61 1SZ - Dydd Llun i Ddydd Gwener: 08:30 i 16:30
- finance@pembrokeshire.ac.uk

Cwblhewch isod os gwelwch yn dda:
Y Warant Debyd Uniongyrchol

- Cynigir y Warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol
- Os bydd unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Coleg Addysg Bellach Sir Benfro yn eich hysbysu 10 diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch yn gofyn i Goleg Addysg Bellach Sir Benfro gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i chi ar adeg y cais.
- Os gwneir camgymeriad wrth dalu eich Debyd Uniongyrchol, gan Goleg Addysg Bellach Sir Benfro neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ac ar unwaith o’r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Os byddwch yn derbyn ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, rhaid i chi ei dalu’n ôl pan fydd Coleg Addysg Bellach Sir Benfro yn gofyn i chi wneud hynny.
- Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i ni hefyd.