Event Details
Gall gwneud y newid o addysg gartref i Goleg ymddangos fel her amhosibl, ond mae gennym ni gefnogaeth yma i chi. Dydd Mawrth 09 Chwefror, 10:00 tan 12:00 canol dydd, byddwn
Event Details
Gall gwneud y newid o addysg gartref i Goleg ymddangos fel her amhosibl, ond mae gennym ni gefnogaeth yma i chi.
Dydd Mawrth 09 Chwefror, 10:00 tan 12:00 canol dydd, byddwn yn cynnal digwyddiad ar gyfer dysgwyr sy’n cael eu haddysgu gartref a’u rhieni/gofalwyr. Bydd cyflwyniad a wedyn cyfle i ofyn cwestiynau gyda’n timau cefnogi.
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu gartref a fydd yn 16 mlynedd cyn mis Medi 2027 ac yn ystyried astudio yng Ngholeg Sir Benfro, neu unrhyw un a allai ddymuno ystyried astudio gyda ni yn y dyfodol ar ôl iddynt droi’n 16 oed.
Gobeithiwn y bydd mynychu’r digwyddiad hwn yn:
- Helpu i hwyluso’r pontio o addysg gartref i leoliad coleg strwythuredig
- Lleihau pryder trwy ganiatáu i ddysgwyr archwilio ystafelloedd dosbarth, llyfrgelloedd a chyfleusterau eraill
- Darparu cipolwg ar y cyrsiau sydd ar gael
- Caniatáu i ddysgwyr ofyn cwestiynau am ddewisiadau pwnc, cymwysterau a llwybrau gyrfa
- Rhoi cyfle i chi gysylltu â myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr eraill
- Annog rhyngweithio cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n trosglwyddo o amgylchedd dysgu mwy annibynnol
- Rhoi cyfle i chi ddysgu am y cymorth ychwanegol sydd ar gael megis: cymorth dysgu, gwasanaethau iechyd meddwl ac arweiniad gyrfa
- Dysgwch am weithgareddau allgyrsiol a bywyd myfyrwyr
Booking Link
Location
Coleg Sir Benfro
Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ
