24meh17:30Noson Groeso Rhieni/Gofalwyr#RhannuEuGweledigaeth17:30 CynulleidfaDarpar Fyfyrwyr
Manylion y Digwyddiad
Rydym wrth ein bodd bod eich plentyn wedi gwneud cais am le i astudio yng Ngholeg Sir Benfro o fis Medi a hoffem eich gwahodd i fynychu Noson Groeso. Rydym yn
Manylion y Digwyddiad
Rydym wrth ein bodd bod eich plentyn wedi gwneud cais am le i astudio yng Ngholeg Sir Benfro o fis Medi a hoffem eich gwahodd i fynychu Noson Groeso.
Rydym yn ymwybodol bod y pontio i’r Coleg yn gyfnod cyffrous ond rydym yn ymwybodol y gall ymddangos yn frawychus i rai o’n dysgwyr ac yn wir i rai rhieni neu ofalwyr.
Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi cynllunio Noson Groeso i chi er mwyn i chi wybod sut beth fydd bywyd Coleg i’n dysgwyr. Dyma’ch cyfle chi i ddysgu am ein haddysgu gwych, gwasanaethau helaeth i gefnogi dysgwyr, trefniadau trafnidiaeth, cymorth ariannol, monitro cynnydd a llawer mwy yn ogystal â bod yn gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a mynd ar daith o gwmpas ein cyfleusterau os nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen.
Gan nad yw’r digwyddiad hwn yn noson agored, ni fydd darlithwyr ar gael i ateb cwestiynau penodol sy’n gysylltiedig â’r cwrs er y bydd ein Tîm Derbyn a Chyfarwyddyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol neu’n ymwneud â dilyniant cwrs.
Amser
24/06/2025 17:30
Lleoliad
Coleg Sir Benfro
Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ